Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hon o ddifrif i sefydlu Ysgolion Sabbothol yn mhob lle y gallesid, a gwnaed defnydd o'r wasg mewn gwahanol foddau i hyrwyddo yr achos. Adeiladwyd amryw Gapelau, a gwnaed ymdrech i gasglu symau sylweddol mewn llawer o fanau i gyfarfod â'r treulion.

Arweinia hyn ni at amgylchiad tra dyddorol, sef at gynheliad y Cyfarfod Talaethol Cymreig cyntaf erioed yn ein hanes fel Enwad. Cynhaliwyd ef yn Ninbych, Mai 24ain, 1804. Yr oedd yn bresenol y Parchn. Owen Davies, John Hughes, Edward Jones, John Maurice, John Jones, William Jones, Robert Roberts, James Gartrell, Stephen Games (y ddau olaf yn weinidogion ar Gylchdeithiau Seisnig Wrexham a Trallwm); Meistri Edward Linnell a George Lawe. Gwelir fod lleygwyr yn bresenol yn ein Cyfarfod Talaethol cyntaf erioed. Gwelir nad yw enw John Bryan ar gael yn mhlith enwau aelodau y Cyfarfod. Y rheswm am hyny yw, ei fod ef yn y gwaith Cymreig yn Liverpool, ac felly yn perthyn i Dalaeth arall. Ychydig o hanes ein Cyfarfod Talaethol cyntaf sydd ar gael, ond canfyddir yn eglur fod llawer o elfenau cysur a llawenydd yn cyd-gyfarfod ar y pryd i galonogi yr ychydig weithwyr oedd yn gwynebu ar y fath gynhauaf mawr. Cymerodd cynydd sylweddol iawn le yn rhif yr aelodau. Yr oeddynt erbyn hyn yn 1709, ac yn dangos cynydd ar y flwyddyn o'r blaen o 365.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1804 yn Llundain, y Parch. H. Moore etholwyd yn Llywydd, a Dr. Coke yn Ysgrifenydd. Daeth amgylchiadau yr achos Cymreig dan sylw y Gynhadledd hon yn naturiol, a diameu y teimlid llawenydd mawr gan lawer, yn enwedig Ysgrifenydd y Gynhadledd, o herwydd ffynniant y gwaith yn ei holl ranau. Yn y Gynhadledd hon ad-drefnwyd y Cylchdeithiau unwaith eto; neu yn hytrach rhanwyd Cylchdaith Rhuthyn yn ddwy, a'r un modd Gylchdaith Caernarfon, ac felly ffurfiwyd dwy o'r newydd, sef Dinbych â Beaumaris. Ychwanegwyd, hefyd, bedwar at rif y Gweinidogion oedd ar y tir—

1. STEPHEN GAMES, o Lanfair-muallt, yn Sir Frycheiniog. Galwyd ef i'r weinidogaeth y flwyddyn flaenorol, a bu yn teithio ar Gylchdaith Seisnig Trallwm am un flwyddyn.