Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yn 1804 cymerwyd ef i'r gwaith Cymreig, a gosodwyd ef i lafurio ar Gylchdaith Dinbych. Ymneillduodd o waith y weinidogaeth yn 1807, ond parhaodd i bregethu ac i flaenori rhestr tra caniataodd ei nerth a'i iechyd. Bu farw yn yr Arglwydd tua diwedd y flwyddyn 1814.

2. EDWARD JONES, 2il, o Gornel-rhedyn, ger Corwen. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth y Parch. John Bryan. Yr oedd yn fardd tra enwog, ac yn Emynydd rhagorol. Bu farw Ebrill 15fed, 1838, yn 63ain oed.

3. WILLIAM BATTEN, o Ddinbych. Efe oedd Cadeirydd cyntaf Talaeth Gogledd Cymru ar ol y rhaniad yn 1828. Bu yn y swydd am bum' mlynedd, a llanwodd hi yn deilwng yn mhob ystyr. Parhaodd i deithio hyd 1842, pryd yr aeth yn uwchrif. Dygodd gyd âg ef serch a pharch canoedd o'i gyfeillion i'w neillduaeth. Bu farw yn Llansantffraid, Maldwyn, Medi, 1864, yn 81ain oed, wedi bod yn ngwaith y weinidogaeth am 51ain mlynedd.

4. GRIFFITH OWEN, o Langybi, Eifionydd, Sir Caernarfon. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd. Gadawodd y gwaith yn 1816. Yr oedd yn awr ar y maes ddeg o wŷr grymus, a theithient i bob cyfeiriad, gan gyhoeddi yr efengyl gyffredinol, ac yr oedd nerthoedd yr yspryd yn cyd-fyned â'u gweinidogaeth i ba le bynag yr elent.

Yn y flwyddyn 1805, cynhaliwyd y Gynhadledd yn Sheffield, pryd yr etholwyd am yr ail waith y Parch. Thomas Coke, LI.D., yn Llywydd. Ymddengys, o bawb a berthynai i'r Cyfundeb y pryd hwnw, mai efe oedd fwyaf ei ddylanwad. Cyfododd rhif yr aelodau y flwyddyn hon i 1532, yr hyn oedd yn gynydd o 823 ar y flwyddyn flaenorol. Rhyfedd fel yr oedd Duw yn bendithio llafur ein tadau â llwyddiant, ac yn rhoddi iddynt destynau llawenydd. Llafuriasant hwy yn deilwng, ac yr ydym ninau yn myned i mewn i'w llafur hwynt. A adawn ni lafur i'n holynwyr i fyned i mewn iddo? Yfwn yn helaeth o'u hysbryd, ac yna cawn y fraint o gario yn mlaen yn llwyddianus y gwaith a gariwyd yn mlaen mor effeithiol ganddynt hwy. Ni bu gyfnewidiad yn rhif y Cylchdeithiau y flwyddyn hon; safasant yn bedair fel o'r blaen; ond er hyny cymerodd cryn gyfnewidiad le yn Sefydliadau y Gwein-