Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

idogion. Pennodwyd Cenhadwr Cymreig i lafurio yn Manchester. Y flwyddyn flaenorol yr oedd yr achos Cymreig yno dan ofal y Parch. John Hughes, yr hwn oedd yn Genhadwr Cymreig yn Liverpool, ac yn nglyn a'i enw yn y Cofnodau ceir y nodiad a ganlyn "D.S. Mae y brawd Hughes i newid bob tri mis gyd âg un o'r pregethwyr yn Nghylchdeithiau Rhuthyn neu Dinbych.

2. Mae Cenhadwr Liverpool i ymweled â Manchester un Sul o bob mis." Y Cenhadwr cyntaf a bennodwyd i Manchester oedd y Parch. Hugh Carter. Y flwyddyn hon galwyd allan naw o'r newydd, a hyny fel y canlyn—

1. JOHN WILLIAMS, o Lanrwst. Bu yn Gadeirydd y Dalaeth am ddwy flynedd, sef 1820 a 1821. Efe ydoedd awdwr Yr Egwyddorydd Ysgrythyrol." Yr oedd, hefyd, yn Emynydd o fri. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny yn 1834. Daeth i feddiant o gryn swm o gyfoeth, a bu yn oruchwyliwr ffyddlon a haelfrydig arno. Bu farw a'i ymddiried yn yr Arglwydd yn Nghaerfyrddin.

2. EDWARD JONES 3ydd, o Llandysilio, Sir Ddinbych. Yr oedd ef yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau; dygai fawr sêl dros yr Athrawiaeth, a bu yn amddiffynwr pybyr a galluog iddi. Penodwyd ef yn Olygydd yr Eurgrawn o 1829 hyd 1836. Aeth yn Uwchrif yn 1848, a bu farw yn Llanidloes, Gorphenaf z zain, 1855, yn 74ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 51ain o flynyddoedd.

3. WILLIAM HUGHES, O Ddinbych. Yr oedd ef yn hynod am ei arabedd; gwreichionai beunydd yn ei ymddiddanion. Bu ei weinidogaeth yn fendith i lawer. Hunodd yn yr Iesu yn Llechryd, Sir Aberteifi, Tachwedd 12, 1861, yn y 80 flwyddyn o'i oed, a'r 57 o'i weinidogaeth.

4. HUGH CARTER, o Ddinbych. Penodwyd ef y flwyddyn hon i lafurio fel Cenhadwr Cymreig yn Manchester, ac efe oedd y cyntaf a sefydlwyd yno. Aeth i'r gwaith Seisnig yn y flwyddyn 1816. Bu farw yn Northwich, Medi 8, 1855, yn 71 mlwydd oed, wedi bod 50 o flynyddoedd yn y weinidogaeth.

5. WILLIAM DAVIES, O Groes Efa, Dyffryn Clwyd. Yr oedd ef yn ddyn galluog iawn, ac yn bregethwr dylan-