Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wadol. Yn y flwydddyn 1815, aeth yn Genhadwr i Sierra Leone, Affrica. Dychwelodd oddiyno yn 1818, a'i iechyd wedi ei anmharu, a'i feddwl i fesur wedi colli ei gydbwysedd. Bu yn Gadeirydd yr Ail Dalaeth Gymreig am bum' mlynedd yn olynol, sef o'r flwyddyn 1821 hyd 1826. Aeth yn Uwchrif yn 1841, a chyd a hen ddyddiau dychwelodd ei anhwyldeb meddyliol, fel nad oedd yn niwedd ei oes ond adfail o'i ardderchogrwydd gynt. Yr oedd yn fardd rhwydd ac yn Emynydd cymeradwy. Gadawodd y gwaith yn 1846.

6. DAVID ROGERS, o'r Garth, Llanfair, Dyffryn Clwyd. Llafuriodd yn mhlith y Cymry hyd 1814, pryd y gosodwyd ef ar Gylchdaith Seisnig, Aberhonddu, lle yr anafwyd ei deimladau yn dost gan y Saeson. Dychwelodd yn ol i'r gwaith Cymreig yn 1815. Bu yn Gadeirydd "Talaeth Rhuthyn yn 1816, ac yn Gadeirydd yr "Ail Dalaeth Gymreig yn 1817 a 1818. Bu, hefyd, yn Olygydd yr Eurgrawn am rai blynyddau mewn cysylltiad âg eraill. Yn y flwyddyn 1819 aeth drosodd i'r gwaith Seisnig, a pharhaodd ynddo hyd Ionawr, 1824, pryd yr hunodd yn yr Arglwydd yn Darlington yn 41 oed, ar ol bod yn ngwaith y weinidogaeth am 19 mlynedd. Tywysog a gŵr mawr yn Israel oedd efe. Yr oedd yn un o bregethwyr blaenaf ei oes, ac yn ysgrifenydd rhagorol.

7. GRIFFITH HUGHES, O Lanor, ger Pwllheli. Yr oedd ef yn bregethwr poblogaidd, a Dirwestwr selog. Safodd o blaid Dirwest yn nydd ei phethau bychain, ac nid oedd. yn Nghymru areithiwr mwy hyawdl o'i phlaid. Aeth yn Uwchrif o herwydd afiechyd yn 1828. Dechreuodd ar ei waith drachefn yn 1829, a pharhaodd i lafurio hyd 1846 yn nghyflawn waith y weinidogaeth. Bu farw Awst, 1864, yn Cefn mawr, yn 81 oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 59 o flynyddoedd.

8. WILLIAM EVANS, o Amlwch, Sir Fôn. Yr oedd yn Athrawiaethwr cadarn, ac yn Ysgrifenydd medrus. Bu yn Olygydd yr Eurgrawn yn 1824 a 1825, ac yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ogleddol am dymor. Daeth yn Uwchrif yn 1844. Bu farw yn Machynlleth, Gorphenaf, 1854, yn 75 oed, wedi bod yn weinidog am 49 o flynyddoedd.