Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

9. ROBERT HUMPHREYS, o Lanelidan, Sir Ddinbych. Safai i fyny yn ddewr dros Arminiaeth, a barddonodd ac ysgrifenodd lawer i'r Eurgrawn ar y pynciau mewn dadl rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid. Bu farw yn Beaumaris o'r Cholera Morbus, Awst, 1832, yn 53 oed, ar ol bod yn ngwaith y weinidogaeth am 27 mlynedd.

Y fath ddynion cryfion oedd y gwyr hyn yn ddieithriad! a'r fath wasanaeth a gyflawnasant i'r achos yn ystod eu bywyd llafurus!! Fel y nodwyd, gwnaed cryn gyfnewidiadau yn Sefydliadau y Gweinidogion Cymreig y flwyddyn hon, am fod amgylchiadau yr achos yn galw am hyny. Dyma'r adeg y dechreuwyd y gwaith Cymreig yn rheolaidd yn Neheubarth y Dywysogaeth, a rhoddwyd y Gweinidogion i lawr ar Gylchdeithiau Seisnig, er mae i lafurio yn mhlith y Cymry y cawsant eu penodi. Yr oedd enw John Hughes i lawr ar Gylchdaith Abertawe, Griffith Owen ar Gylchdaith Caerdydd, Edward Jones 3ydd ar Gylchdaith Merthyr Tydfil, ac Edward Jones yr 2il ar Gylchdaith Trallwm. Beth fu ffrwyth llafur y Gweinidogion Cymreig y flwyddyn hon, nis gallwn gael allan, oblegid yr oedd y rhai a ddychwelwyd o dan weinidogaeth y rhai a lafuriant yn y Deheudir yn cael eu cynwys yn nghyfrifon y Cylchdeithiau Saesnig y llafuriant yn nglyn â hwynt. Ond, a chymeryd pob peth at eu gilydd, yr oedd hon yn flwyddyn nodedig o lwyddianus, ïe, yn un o flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1806 yn Leeds, pryd yr etholwyd y Parch. Adam Clarke, M.A., yn Llywydd am y tro cyntaf. Yr oedd nifer yr aelodau ar y Cylchdeithiau Cymreig yn 3703, yr hyn a ddengys gynydd o 1271 ar y flwyddyn o'r blaen. Diameu y buasai y cynydd yn llawer mwy, pe buasai y rhai a ymunasant â'r achos yn ystod y flwyddyn dan weinidogaeth y Cenhadon yn y Deheudir yn y cyfrif. Yn y flwyddyn hon galwyd allan bedwar o'r newydd i waith y weinidogaeth.

1. EDWARD EDWARDS, O Langoleu-fach. Enciliodd o'r gwaith yn 1809, ac felly cyn gorphen ei dymhor prawf. Nid oedd cwyn o gwbl yn erbyn ei gymeriad moesol, ond ni feddai gymhwyster i gyflawni gwaith y weinidogaeth yn effeithiol.