Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. JOHN DAVIES, o Helygain, Sir Fflint. Yr oedd ef yn ddyn a feddai ar dduwioldeb yn ei grym, yn bregethwr grymus ac effeithiol, yn ŵr o gyngor, ac yn sefyll yn uchel yn nghyfrif ei frodyr yn y weinidogaeth a'n pobl yn gyffredinol. Bu yn Gadeirydd y Dalaeth yn 1827 ac 1828. Yn 1833 penodwyd ef yn Ysgrifenydd "Ail Dalaeth Deheudir Cymru," a pharhaodd i lenwi y swydd hyd 1843, pryd, ar ymneillduaeth y Parch. H. Hughes yn Uwchrif, y gosodwyd ef yn Gadeirydd y Dalaeth hono, yr hon swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn Merthyr, Rhagfyr 21, 1845. Pregethodd bore y Sabboth hwnw yn Merthyr, a chymerwyd ef i ogoniant pan ar y ffordd i'w gyhoeddiad erbyn yr hwyr, a hyny gan ddywedyd yn hyderus, "Tyred, Arglwydd Iesu." Bu farw yn 61 oed, ar ol gweinidog- aethu am 39 o flynyddoedd.

3. EVAN PARRY, o Helygain, Sir Fflint. Aeth drosodd i'r gwaith Seisnig yn 1817. Gadawodd y fuchedd hon Rhagfyr, 1850, yn 69 oed, ar ol bod yn weinidog defnyddiol am 44 o flynyddoedd.

4. MORRIS JONES, o Langollen. Gadawodd y weindogaeth yn 1818, gan wneyd cais i godi plaid, yr hyn a wnaeth fawr niwed a cholled i'r achos ar y pryd. Cyn diwedd ei oes dychwelodd yn ol i'w hen gorlan yn edifeiriol am y drwg a wnaeth. Ond er galw pedwar allan at yr un a'r hugain oedd yn y gwaith y flwyddyn o'r blaen, eto nid oedd rhif y Gweinidogion ond pedwar a'r hugain y flwyddyn hon, oblegid dychwelodd y Parch. John Hughes, Aberhonddu, i'r gwaith Seisnig, o herwydd rhesymau neillduol a digonol yn ei gyfrif ef. Yn nghynhadledd y flwyddyn hon ffurfiwyd pedair o Gylchdeithiau newyddion, sef, Llangollen, Pwllheli, Dolgellau a Machynlleth. Yr oedd hyn yn benaf yn effaith ad-drefniad, fel y ceid gwell mantais i gario y gwaith yn mlaen yn fwy effeithiol.

Yn y flwyddyn 1807, cynhaliwyd y Gynhadledd yn Liverpool-y Parch. J. Barber yn Llywydd. Yr oedd gan Gynrychiolwyr Talaeth Gogledd Cymru adroddiad ffafriol i'w roddi eto y flwyddyn hon am lwyddiant ar y gwaith, er na bu y cynydd mor fawr a'r flwyddyn flaenorol. Rhifai yr aelodau yn awr 4128, cynydd o 425. Ffurfiwyd dwy