Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gylchdaith newydd, sef Llanidloes ac Aberystwyth. Galwyd wyth o'r newydd i waith y weinidogaeth. Ond nid oedd yr ychwanegiad yn rhif y Gweinidogion ond saith, a hyny am i Mr. Stephen Games ymneillduo o'r gwaith. Galwyd allan yn

1. DAVID JONES, o Beddgelert. Meddai ar ddawn swynol; deallai, a medrai ganu yn soniarus iawn, a dylifai y bobl yn dyrfaoedd i wrandaw arno. Aeth yn Uwchrif yn 1820, ond ymaflodd yn ei waith drachefn yn 1824. Bu farw yn Liverpool, Ionawr 4ydd, 1830, yn y 50ain mlwydd o'i oed, a'r 23 flwydd o'i weinidogaeth.

2. JOHN ROGERS, o Rhiwabon, ger Wrexham, Sir Ddinbych. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1816, ac yn Uwchrif yn 1841. Bu farw yn Barnstaple, Swydd Devon, Ebrill, 1849, yn 69 mlwydd oed, ac yn yr 42 o'i weinid- ogaeth.

3. EVAN HUGHES, o Langynog, Sir Drefaldwyn. Yr oedd ei weinidogaeth yn llawn dyddanwch i'r Saint, ac wedi ei melysu â mêl yr addewidion. Yr oedd yn Armin Bu farw yn goleuedig ac yn Drefnydd Cydwybodol. Nhreforris, Medi, 1861, yn ei 76 flwydd o'i oed, a'r 54 o'i weinidogaeth.

4. HUGH HUGHES, O Lanor, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Griffith Hughes a alwyd allan y flwyddyn o'r blaen, ac yn daid i'r Parch. Hugh Price Hughes, M.A., Llywydd y Gynadledd 1898. Yr oedd ef yn un o ragorolion y ddaear. Nodweddid ef gan dduwioldeb ddofn ac ymroddiad di-ildio. Gwnaeth wasanaeth ardderchog i'r Achos. Bu yn Gadeirydd "Ail Dalaeth Deheudir Cymru," o'r flwyddyn 1829 hyd 1843. Ni fu Gadeirydd erioed yn ddyfnach yn serch nag ymddiried ei frodyr nag efe. Yr oedd hefyd yn llenor gwych. Bu farw mewn gorfoledd mawr yn Nghaerfyrddin, Rhagfyr, 1855 yn ei 77 flwydd o'i oed, ac yn ei 48 flwydd o'i weinidogaeth.

5. SAMUEL DAVIES, O Cilcain, Sir Fflint. Yr oedd efe yn Dduwinydd o radd uchel, ac yn awdwr cynyrchiol a