Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galluog. Ni chafodd Arminiaeth erioed well amddiffynwr, a chyflawnai ei weinidogaeth yn fanwl a thrwyadl yn ei holl gylchoedd. Llafuriodd yn galed a bendithiodd Duw ei waith â llwyddiant mawr. Bu farw yn Ninbych, Mai, 1854, yn 65 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 47 mlynedd.

6. EVAN EDWARDS, o Langadwaladr, Sir Fôn. Bu arddeliad mawr ar ei weinidogaeth yn mhlith gweithwyr y Deheudir ar un adeg yn ei hanes. Bu farw yn Pwllheli, Ionawr, 1860, yn 75 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 53 o flynyddoedd.

7. ROBERT JONES o Lanerchymedd, Sir Fôn. Gadawodd y weinidogaeth yn 1825.

8. THOMAS ROBERTS, O Fangor. yn Arfon. Cafodd nychdod trwy gysgu mewn gwely damp. Bu farw yn Meifod, Hydref, 1808. Efe oedd y Gweinidog Wesleyaidd Cymreig cyntaf a fu farw. Gosodwyd maen ar ei fedd yn ddiweddar er coffa am dano.

Yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Bristol, yn 1808—y Parch. James Wood, yn Llywydd; gwnaed gryn gyfnewidiadau yn nhrefniadau y Cylchdeithiau. Cymerwyd Trallwm a Wrexham oddiwrth "Dalaeth Gogledd Cymru," ac unwyd hwy gyd â Chylchdeithiau Seisnig eraill i ffurfio talaeth newydd dan yr enw "Talaeth Amwythig," ac yna unwyd yr holl Gylchdeithiau Cymreig yn y Dywysogaeth i ffurfio "Talaeth Gogledd Cymru," oddieithr Cylchdeithiau Crughywel a Chaerphili yn y Deheubarth, y rhai a gynwysid yn Nhalaeth Seisnig Deheudir Cymru. Yn y Gynhadledd hon ffurfiwyd pedair o Gylchdeithau Cymreig newyddion, sef Crughywel, Caerphili, Llandeilo, a Llanbedr-pont-Stephen. Yr oedd rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 5218, cynydd o 1090. Galwyd allan i waith y weinidogaeth-

1. EDWARD ANWYL, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Un o ddynion mawr, ïe, un o ddynion mwyaf ein Henwad oedd efe. Ni fu yn perthyn i unrhyw eglwys mewn unrhyw wlad gymeriad mwy ardderchog. Bu yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am 16 o flynyddoedd, sef o 1838