Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyd 1855. Bu farw yn Treffynnon 1857, yn 70 mlwydd oed, ac yn y flwyddyn 49 o'i weinidogaeth.

2. EDWARD JONES, y 4ydd, o Lanasa. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1819. Bu farw yn Brixham 1821, yn 40 mlwydd oed, wedi llafurio yn y weinidogaeth am 13 o flynyddoedd.

3. DAVID JONES, yr 2il, o Eglwysfach, Sir Aberteifi. Meddai ar ddawn hynod o boblogaidd, a bu yn foddion i ddychwelyd llawer o eneidiau at y Gwaredwr. Bu farw yn Croesoswallt, Awst, 1862, yn 77 mlwydd oed, ac yn ei 54 mlwydd o'i weinidogaeth.

4. JAMES JAMES, o Langwyryfon, Sir Aberteifi Enciliodd o'r gwaith yn 1812.

5. LOT HUGHES, o Abergele, Sir Ddinbych. Yr oedd ef yn Drefnydd gofalus, yn Groniclydd manwl, ac yn Weinidog llwyddianus iawn. Bu farw yn Caerlleon, Gorphenaf, 1873, yn 87 oed, ac ar ol bod yn y weinidog- aeth am 65 o flynyddoedd.

6. THOMAS THOMAS, o Ddolgellau. Bu farw yn Abermaw, Ebrill, 1846, yn 62 mlwydd oed, ac yn ei 38 flwydd o'i weinidogaeth.

7. OWEN JONES, o Llechfraith, Sir Feirionydd. Bu farw yn yr Abermaw, 1843, yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 35 o flynyddoedd.

8. JOHN WILLIAMS, o Sarn Wilkin. Enciliodd yn 1814.

9. OWEN REES, O Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Aeth yn Genhadwr i Gibralter yn 1819. Dychwelodd i Loegr yn 1821, a llafuriodd o hyny allan, tra y gallodd, yn y gwaith Seisnig. Bu farw yn Nghaerfyrddin, Awst, 1832, yn 44ain mlwydd oed, a'r 24ain o'i weinidogaeth.

10. WILLIAM JONES, O Beaumaris, Sir Fôn. Rhoddodd i fyny y weinidogaeth yn 1816, ac ymsefydlodd yn Nghaer. Parhaodd yn bregethwr cynorthwyol hyd ddiwedd ei oes, ac y mae ei goffawdwriaeth yn perarogli hyd y dydd heddyw. Yr oedd yn gymeriad rhagorol.

Yn y Gynhadledd hon penodwyd Cenhadwr gyntaf i Lundain, sef y Parch. E. Jones y 3ydd, ac, felly, y pryd hwn y dechreuodd yr achos Cymreig yn rheolaidd yn y