Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Brif-ddinas. Yn nechreu y flwyddyn 1809 y cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r Eurgrawn, yr hwn, erbyn heddyw, ydyw y cyhoeddiad hynaf yn y Dywysogaeth.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1809 yn Manchester, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Taylor. Gwnaed cyfnewidiadau. eto yn nhrefniadau y Cylchdeithiau, trwy grynhoi yr holl waith Cymreig yn y Dywysogaeth i un Dalaeth. Rhanwyd amryw Gylchdeithiau, a ffurfiwyd pedair o'r newydd, sef, Castellnedd, Caerfyrddin, Caergybi, a Llanfyllin. Collir enw Llangollen o'r Sefydliadau y flwyddyn hon, ond ceir enw Llanrwst yn ei lle. Galwyd chwech allan o'r newydd. i waith y weinidogaeth y flwyddyn hon, sef-

1. JOHN JONES, o Amlwch, Sir Fôn. Bu farw yn Nghaerlleon, Medi, 1855, yn 74 mlwydd oed, ac yn ei 46 o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM DAVIES, O Lanfyllin, Sir Drefaldwyn. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1818. Bu farw yn Bailia, ger Aberhonddu, yn Hydref, 1868, yn 83 mlwydd oed, a'r 59 o'i weinidogaeth.

3. ROBERT JONES, yr 2il, o Lanfyllin. Bu farw yn sydyn ac annisgwyliadwy yn Amlwch, Gorphenaf, 1826, yn ddeugain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth 17 mlynedd.

4. HUMPHREY JONES, O Farchlyn, Pennal, Sir Feirionydd. Yr oedd yn ddyn crefyddol iawn, ac yn llawn sêl tros lwyddiant teyrnas y Gwaredwr. Daeth yn uwchrif yn 1838, a bu farw yn Hydref, y flwyddyn hono, yn Llanfyllin, yn 56 mlwydd oed, a'r 29 o'i weinidogaeth.

5. JOHN WILLIAMS, y 3ydd (ond yr 2il ar ol i John Williams, Sarn Wilkin, encilio), o Llanfair-y-borth, Sir Fôn. Yr oedd yn ddyn o alluoedd anghyffredin. Bu yn golygu "Yr Eurgrawn" am dair blynedd, sef 1826-1828. Ceir ysgrifau ganddo yn fisol yn "Yr Eurgrawn" o Ionawr, 1828, hyd i Gorphenaf, 1830, ar "Hanes Wesleyaeth yn Nghymru." Wrth yr ysgrif olaf a ymddanghosodd ceir "I barhau." Ond paham na pharhaodd, nis gwyddom. Dewiswyd ef yn ysgrifenydd "Ail Dalaeth Deheudir