Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru yn 1831 a 1832. Dan ei weinidogaeth ef, pan yn pregethu yn Nantyglo ar y geiriau "Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," yr argyhoeddwyd y Parch. T. Aubrey. Bu farw mewn llawenydd a "thangnefedd heddychol" yn Nghaerfyrddin, Ionawr, 1834, yn 46 mlwydd oed, ac yn ei 25 flwydd o'i weinidogaeth. Ychydig cyn marw bloeddiodd Y Beibl a rhâd ras a'i piai hi. "I shall soon be rolled in glory."

6. OWEN THOMAS, O Landdeiniolen, Sir Gaernarfon. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny yn 1823, a chartrefodd yn Nghaergybi. Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlon of hyny hyd i ddiwedd ei oes fel Pregethwr Cynorthwyol derbyniol iawn, ac fel Swyddog Eglwysig mewn gwahanol gylchoedd.

Yn Llundain y cynhaliwyd Cynhadledd 1810, dan lywyddiaeth yr esboniwr adnabyddus (y Parch. Joseph Benson). Gwnaed cyfnewidiadau eto yn y Cylchdeithiau Cymreig, trwy eu had-drefnu. Ffurfiwyd pedair cylchdaith newydd, sef, Merthyr, Aberhonddu, Aberteifi a Pwllheli. Ond nid oedd ond tair yn ychwanegol at eu rhif, oblegid collir enw Crughywel, a thybiwn mai y gylchdaith hono wedi ei rhanu yn ddwy oeddynt Merthyr ac Aberhonddu. Galwyd allan y flwyddyn hon i waith y weinidogaeth y brodyr canlynol:—

1. DAVID WILLIAMS, o Lanfair-y-borth, Sir Fôn. Yr oedd efe yn frawd i John Williams, a alwyd allan y flwyddyn cynt. Aeth yn uwchrif yn y flwyddyn 1822, ond ail-ymaflodd yn ei waith yn 1823. Safai wrtho ei hun yn mhlith ei frodyr yn y weinidogaeth. Perthynai iddo lawer o hynodion. Yr oedd yn feddyliwr gwreiddiol a chynyrchiol, ac fel rheol nodweddid ei bregethau a'i ysgrifau gan gryfder a newydd-deb. Ni bu yn y weinidogaeth erioed berson o ymddangosiad mwy urddasol, a chafodd lawer o odfaon eithriadol o rymus—mwy, efallai, na neb o'i gyd-oeswyr. O barch i'w alluoedd yn ogystal ag o serch tuag ato, gelwid ef yn "Frenin," weithiau, "Yr Hen Frenin," a phryd arall, "Y Brenin Dafydd." Bu farw yn Liverpoo!, Mehefin, 1862, yn 77 mlwydd oed, ac yn ei 52 flwydd o'i weinidogaeth.