Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. PETER PEARCE, o Liverpool. Trodd allan yn siomedig, gan beri peth gofid i'w Arolygwr—y Parch. Hugh Hughes. Enciliodd yn ystod y flwyddyn.

3. LEWIS JONES, O Lanegryn, Sir Feirionydd. Hunodd yn ddedwydd yn yr Arglwydd Tachwedd 15, 1830, yn ei 46 flwydd o'i oed, a'r 20fed o'i weinidogaeth.

4. DAVID EVANS, o Dalysarn, Sir Aberteifi. Yr oedd yn bregethwr tyner ac effeithiol iawn. Bu yn ysgrifenydd. "Talaeth Gogledd Cymru" yn 1832, ac yn 1833 penodwyd ef yn gadeirydd y Dalaeth, yr hon swydd a lanwodd am bum' mlynedd yn olynol. Hunodd yn yr Arglwydd yn Manchester, Mai 11, 1854, yn 64 mlwydd oed, a'r 44 mlwydd o'i weinidogaeth.

5. STEPHEN PARRY, o Lanilar, Sir Aberteifi. Enciliodd yn 1813, ac felly cyn gorphen ei dymhor prawf.

Yn Nghynadledd y flwyddyn hon newidiwyd enw y Dalaeth Gymreig, a galwyd hi Y Dalaeth Genhadol Gymreig," ac nid "Talaeth Gogledd Cymru" fel o'r blaen. Parhaodd dan yr enw hwn hyd 1815. Yr oedd rhif yr aelodau yn Mawrth y flwyddyn hon yn 5649. Elai yr achos mawr ar gynydd o flwyddyn i flwyddyn, a chyfodai Duw beunydd ddynion anghyffredin fel gweinidogion, pregethwyr cynorthwyol, a blaenoriaid i gario yr achos yn mlaen.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1811 yn Sheffield, dan lywyddiaeth y Parch. C. Atmore. Ni ddigwyddodd rhyw lawer o bethau neillduol y flwyddyn hon. Aeth pobpeth yn mlaen ar y llinellau osodwyd i lawr y flwyddyn flaenorol, a hyny yn dra llwyddianus. Ni wnaed unrhyw gyfnewidiadau yn nhrefniadau y cylchdeithiau. Yr oedd rhif yr aelodau yn Mawrth, 1811, yn 5700, sef cynydd o 51. Galwyd dau o'r newydd i waith y weinidogaeth, --

1. ROBERT OWEN, O Lysfaen, ger Abergele, Sir Ddinbych. Yr oedd yn ddyn o ymddangosiad hynod o foneddigaidd. Hoffid ef yn fawr gan ein pobl ar gyfrif ei gyfeillgarwch, a'i garedigrwydd tuag at y plant. Bu yn weinidog defnyddiol. Hunodd yn yr Iesu yn Aberaeron, Awst 3, 1875, yn 94 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidog-