Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth am 64 o flynyddoedd. Efe o'r gweinidogion Cymreig hyd yn hyn a gyrhaeddodd yr oedran mwyaf.

2. MORGAN GRIFFITHS, o Ddolgellau, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn weinidog ymroddol i'w waith, a bu yn llwyddianus yn ei weinidogaeth. Bu farw yn Aberaeron, Awst 6, 1868, yn 80 mlwydd oed, a'r 57 o'i weinidogaeth.

Dyma ni yn awr wedi cyrhaedd at derfyn yr un mlynedd a'r ddeg cyntaf yn hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig. Ac wrth adrodd yr hanes, ni chyfeiriasom ddim at yr anhawsterau y bu y tadau yn ymgystadlu â hwynt, nac at yr ymosodiadau erlidgar a wnaed arnynt, ac yn enwedig ar yr athrawiaeth a bregethent. Cawsant brofiad chwerw o'r holl bethau hyn, fel y cawn ddangos yn y bennod nesaf.

Gyd âg eithriad o un flwyddyn, bu yr un mlynedd a'r ddeg cyntaf o hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn dymor o gynydd a llwyddiant ar ei hyd. Yn Awst, 1800, nid oedd lawn 50 o aelodau yn perthyn i'r Enwad Cymreig, ond yn Awst, 1811, yr oedd eu rhif yn 5700. Mewn cyfeiriad at lwyddiant Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y cyfnod hwn, dywed un o brif haneswyr Cymru Nid oes, efallai, yn hanes crefydd yn unrhyw wlad o leiaf nid oes yn hanes crefydd yn Nghymru, un engraifft o'r fath lwyddiant cyflym yn dilyn llafur dynion heb ddim neillduol yn eu talentau na'u safleoedd, a'r un a ddilynodd lafur Sylfaenwyr Methodistiaeth Wesleyaidd yn y Dywysogaeth. Dechreuwyd y gwaith yn 1800, ond cyn diwedd y flwyddyn 1810 yr oedd y pregethwyr teithiol yn rhifo 40, y Cymdeithasau a ffurfiwyd ganddynt yn 410, yr aelodau rhwng pump a chwe mil, ac yn ystod naw mlynedd o amser, adeiladwyd dim llai na 80 o Gapelau." Nid ydym yn gallu cyd-weled â Dr. Thomas Rees, pan yn dywedyd, nad oedd dim neillduol yn nhalentau ein tadau. Cydnabyddwn nad oeddynt yn ddynion diwylliedig, yn yr ystyr o fod wedi derbyn addysg uwchraddol; ac mai dynion cyffredin oeddynt o ran eu hamgylchiadau a'u safleoedd. Ond dywedwn yn ddibetrus fod llawer o honynt yn ddynion o athrylith, ïe, yn ddynion anghyffredin o ran eu talentau. Yr oeddynt y rhai tebycaf y gwyddom ni am danynt i'r Apostolion.