Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I. ERLIDIGAETHAU.

Nodwn ychydig engreifftiau o'r Erlidigaethau yr aeth ein tadau yn yr Efengyl trwyddynt. Rhoddwn yn gyntaf oll adroddiad o'r Erlidigaeth a gymerodd le yn Abergele yn y flwyddyn 1802, pan yr ataliwyd y Parch. Edward Jones, Bathafarn, i bregethu yno. Fel hyn yr adroddir yr hanes gan Mr. Jones ei hun:—"Pan ddaethum i Abergele, yr oedd yno ganoedd (o 3000 i 4000, meddai Mr. Lot Hughes), o bobl wedi ymgynull. Wedi i mi ddisgyn oddiar fy anifail daeth y swyddogion ataf i ofyn i mi fy awdurdod i bregethu: mi a estynais iddynt fy mraint-lythyr. Yn fuan wedi hyn danfonasant ef yn ol gyd â'r swyddog, ac ar yr un pryd fe'm cymerwyd o flaen yr Ynadon. Wrth i mi fyned trwy y dref, yr oedd y bobl yn holi i ba le yr oeddwn yn myned. Atebais inau mai i'r carchar, am a wyddwn. Pan ymddangosais ger eu bronau, gofynasant i mi pa awdurdod oedd genyf i bregethu. Atebais fod fy mraint-lythyr yn rhoi i mi awdurdod. 'Ond,' meddent, pa awdurdod sydd genych i bregethu yn y tŷ neu yn y buarth?' Dywedais nad oedd genyf un awdurdod, yn gymaint nad oedd y lle wedi ei recordio. 'Pa fodd yr ydych yn cymeryd y fath hyfdra,' ebai yr Ynad, 'a phregethu mor agos i dŷ yr offeiriad?' Atebais nad oeddwn yn adnabyddus ei fod yn byw mor agos. wyf yn penderfynu,' ebai yr Ynad, i wrthwynebu pawb sydd yn gwrthwynebu yr Eglwys.' Yr wyf yn gofyn eich nawdd, Syr, ac yn dymuno i chwi ddeall nad wyf fi yn gwrthwynebu yr Eglwys: nid oedd neb yn fwy o blaid yr Eglwys na Mr. Wesley. Dywedais yn mhellach nad y person yw yr Eglwys, na'i phen chwaith. Eglwys yw cynulleidfa o bobl yn proffesu—yn cynal i fyny ei grym hi. Ai dyna yw yr Eglwys!' ebai y person. Dywedais fy mod i wedi darllen yn un o Epistolau Paul fod Eglwys yn nhŷ un o'r cyfeillion. Gofynodd y person i mi a ddarllenaswn y llyfr a'r llyfr, atebais na ddarfum; ond, os rhoddwch ei fenthyg, mi a'i darllenaf. Wrth iddynt fy ngweled mor hyf dros yr achos da, yr oeddynt yn bur waedwyllt a ffyrnig, ac yn penderfynu na chawn bregethu i'r bobl. Am hyny gofynais i'r boneddigion a gawn i