Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyned i fynegu i'r bobl nad oedd caniatad i mi fyned i bregethu iddynt. Hwy a atebasant, Cewch; ond na ddywedwch fod Griffith o'r Garn yn eich rhwystro.' Dywedais y byddai raid iddynt yn y dydd mawr ag sydd ar ddyfod roddi cyfrif manwl am fy atal i bregethu i'r bobl. Yr oedd y bobl yn daer iawn arnaf i bregethu, ac yn barod i dalu pob traul; ond bernais mai doethach oedd peidio y tro hwn. Bu y tro hwn yn dra llesol i'r achos da yn Abergele; canys cyrhyrfodd hyn y bobl i ymofyn am le cyfleus i addoli Duw."

Yr engraifft nesaf y cyfeiriwn ati a gymerodd le yr un flwyddyn yn Nghonwy, ac fel hyn yr edrydd Mr. Jones, Bathafarn, yr hanes: "Wedi i ni (sef Mr. Bryan a minau) gyrhaedd Conwy, . . . . nyni a ganfuasom yn fuan nad oedd fawr o arwyddion gwir grefydd o'i mewn, eithr yr oedd pobpeth yn arwyddo fod y trigolion yn hil wargaled ac anufudd. Wedi i ni benderfynu y byddai i ni bregethu mewn buarth o'r neilldu, nyni a aethom o dŷ i dŷ i erfyn ar y bobl i ddyfod i'n gwrandaw. Yr atebiad a gawsom gan lawer oedd, nad oeddent hwy yn dymuno ein gwrandaw. Yn wir, yr oeddem ni yn barnu hyny ein hunain oblegid yr oeddynt yn ymddangos mor neillduol o ddidaro yn nghylch yr achos mwyaf; ond ni ddarfu i hyn ein digaloni; eithr wedi i ni gael benthyg bwrdd i sefyll arno, myfi a ddechreuais yr addoliad trwy ganu a gweddio; yna dechreuodd Mr. Bryan bregethu. Yn mhen oddeutu deg mynud ar ol i Mr. Bryan ddechreu pregethu daeth dau swyddog yn mlaen (wedi eu hanfon gan yr offeiriad fel y deallasom wedi hyny) gan ddymuno arno i roi i fyny, yn gymaint nad oedd y lle hwnw yn addas i bregethu ynddo, am nad oedd wedi ei recordio. Ymdrechais i'w gynghori i ufuddhau, oherwydd nad oedd. genym awdurdod y gyfraith. Ond nyni a hyspysasom ein gwrandawyr y byddai i ni holi am le cyfleus, ac yr aem yn ddioed i gwrt Bangor i'w recordio. Yngymaint ag i ni gael ein rhwystro yr ail waith, penderfynasom i gymeryd lle o dan ardreth; a chyn i ni fyned o'r dref yr ail dro buom yn llwyddianus i gael hen ysgubor gan wraig weddw am bedair punt yn y flwyddyn. Wedi hyn nyni a aethom gyd â'r brys mwyaf i Fangor i'w recordio, ac wedi i ni gael