Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pobpeth yn ddiogel mi a anfonais i Gonwy y byddai i mi bregethu am ddau o'r gloch y Sabboth canlynol yn yr hen ysgubor. Erbyn i mi gyrhaedd yno o Beaumaris yr oedd y bobl wedi ymgynull yn dyrfa fawr iawn, o bell ac agos, i wrandaw y gŵr a rwystrwyd gan yr Ynad. Yn fuan wedi i mi ddechreu pregethu daeth dau swyddog yn mlaen drachefn, gan ddymuno arnaf ddangos fy awdurdod i bregethu yn y lle hwnw. Erfyniais arnynt ymdawelu nes i mi ddarfod pregethu i'r bobl, yna y boddlonwn hwynt- hwy a'r offeiriad; ond nid oedd dim llonyddwch i'w gael nes i mi ddangos fy awdurdod. Yr oedd fy ngwrandawyr wedi cael cryn fraw, ac yr oedd llawer o honynt yn wylo wrth weled fy mod yn cael fy erlid fel hyn gan y person. Cynghorais hwynt i beidio ag wylo; a dywedais, os byddai raid i mi fyned i'r carchar, y deuai Duw Paul a Silas yno gyd â mi. Cefais lawer iawn o hwyl nefolaidd tra yn erfyn. arnynt i gymodi â Duw."

Ar ei ymweliad âg Ynys Môn daeth Mr. Jones i Langefni, ac yno, hefyd, cyfodwyd erlidigaeth yn ei erbyn, ac fel hyn y tystiolaetha—"Cefais gryn wrthwynebiad yn Llangefni. Wedi i mi gael benthyg llofft fawr berthynol i'r lluesty (Inn) benaf yn y lle y pryd hwnw, gorfu i mi droi allan (o herwydd maint y gynulleidfa mae yn debyg), a sefyll ar y gareg-farch wrth y tŷ. Cefais rwyddineb mawr i lefaru; ond tra yr oeddwn yn gofyn bendith Duw ar y gair a'r bobl, cyn ymadael, wele rhuthrodd gŵr bonheddig trwy y dorf, a chymerodd afael ynof, a thynodd fi i lawr, a dywedodd wrthyf y gwnai efe i mi dalu ugain punt, neu y cawn fyned i'r carchar. Llusgwyd fi i'r dafarn, a sicrhawyd y drws; ac wedi fy nghael i ystafell fechan o'r neilldu, gorchymynodd i mi roddi fy enw iddo, ac os na wnawn hyny yr oedd yn rhaid i mi fyned i'r carchar. dywedodd, os gwnawn addaw na ddeuwn mwy i Sir Fòn, y cawn i fyned yn rhydd y tro hwn! Dywedais na allwn wneuthur hyny yn gydwybodol, am fod y gorchymyn i mi fyned i'r holl fyd, a phregethu yr Efengyl i bob creadur; ond y gwnawn addaw na ddeuwn mwyach i'r Sir hono os gwnai yntau addaw rhwymo y Diafol, fel na themtiai drigolion y Sir mwy, ac os gwnai addaw na wnai pobl Môn bechu mwyach. Edrychodd yn syn arnaf, a