Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedodd mai dyn da oeddwn. Cymerodd fi o flaen hen berson, Mr. Humphreys oedd ei enw, os da yr wyf yn cofio. Yr oedd ef yn yfed grog yn nhŷ un Mr. Lloyd. Wedi fy nwyn fel hyn o flaen y person, efe a ofynodd i mi gyd â llawer o rwysg, pa fodd yr oeddwn yn meiddio pregethu allan! beth pe buasai i mi a'm teulu fyned heibio mewn cerbyd, ac i'r ceffylau gymeryd braw?' Gyd â'ch cenad, Syr, ebai finau, ni ddygwyddodd hyny. Yna neidiodd Mr. Lloyd i fyny, gan gymeryd fy mhlaid yn wresog; efe a daflodd lyfrau y gyfraith ar y bwrdd, a dymunodd arnynt ddangos iddo ef lle yr oedd y gyfraith yn fy ngwrthwynebu. Ar hyn darfu i Mr. Evans, Trefeilir, y gŵr bonheddig a'm tynodd i lawr, fy nghymeryd yn ol i'r lluesty, ac wedi i ni fyned yno gofynais am ei enw. 'Gwir,' ebai ef, y mae genych chwi yr un hawl i ofyn i mi am fy enw âg oedd genyf finau i ofyn am eich enw chwithau.' 'Addawaf o flaen tystion,' ebai ef, am i chwi ymddwyn fel gŵr bonheddig, os gwelaf chwi yn pregethu allan eto, y bydd i mi fyned heibio fel gŵr bonheddig, heb eich atal. Diolchais iddo; ond dywedais y byddai yn rhaid iddo roi cyfrif i Dduw am ei ymddygiad. Dygwyddodd hyn ar nos Fawrth ddydd Sadwrn o'r blaen yr oedd ef wedi claddu ei dad a'i frawd, a chymerwyd yntau yn glaf yn bur fuan wedi hyn; ac yn ystod ei afiechyd yr oedd yn addef wrth y wraig oedd yn ei wylio fod yn ddrwg ganddo iddo ymddwyn yn y fath fodd tuag ataf."

Yn Nghemmes, gerllaw Amlwch, crybwylla Mr. Bryan iddo ef a Mr. John Maurice gael eu trin yn lled angharedig:—"Ond," meddai Mr. Bryan, "nyni a gyfarfuasom a thriniaeth bur wahanol (i'r un a gawsant yn Amlwch), y dydd canlynol, wrth i ni fyned i bentref lled helaeth gerllaw Awlwch, a elwid Cemmes, man llawn o Galfiniaid; ac nis gallwn gael yno fwyd, diod, na stabl i roi ein ceffylau! Mi a brynais dorth o fara, ac a'i cariais hi o dan fy mraich trwy yr heol, er porthi y ceffylau, y rhai oeddem wedi eu troi i gwrt o'r neilldu; a'n ciniaw ninau oedd wy a theisen o flawd haidd a cheirch. Ymddengys eu bod wedi penderfynu ein cadw allan o'r lle. Ond fe bregethodd y brawd Maurice i gynulleidfa led helaeth. Cawsom hanes tŷ yn y gymydogaeth i'n derbyn y tro nesaf. A ydyw yn alluedig