Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod y bobl yma yn meddu cariad Duw yn eu calonau? Na fydded i'r Hollalluog roi y pechod hwn yn eu herbyn."

Gyd â bod Mr. Bryan wedi dechreu ar waith ei weinidogaethaeth aeth i Lanrhaiadr-yn-Mochnant a'r gyffiniau, Siroedd Maldwyn a Dinbych, i bregethu, ac fel hyn yr adrodda yr hanes:—"Yr oedd y person yno yn llidiog iawn yn erbyn pob Sect. Yr oedd yn ddyn cadarn, nerthol yn ymladdwr mawr hefyd, ac yn feistr ar bawb yn y plwyf ond un dyn ieuanc o Lanfyllin, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw yn Llanrhaiadr. Ar ol cyrhaedd y lle aethum o ddrws i ddrws trwy y pentref i wahodd y bobl i ddyfod i wrandaw arnaf, ond ni roddai neb genad i mi sefyll wrth ei ddrws rhag ofn y person. Y mae yn y pentref afon yn rhedeg drwyddo, yr hon sydd yn gwahanu rhwng Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn. Yr oedd y person sylwer yn Ustus Heddwch yn y Sir flaenaf, ond nid oedd felly yn yr olaf. Gan na wnai neb adael i mi sefyll i fyny wrth ei ddrws yn y pentref, myfi a aethum dros y bont i Sir Drefaldwyn; a daeth y bobl yno hefyd ar fy ol i. Ond gyda i ni ganu pennill, daeth y person yn mlaen a safodd ar ganol y bont, ac a waeddodd, Syr, deuwch i lawr oddi yna.' Atebais inau, Ni waeth i mi ddyfod i lawr na pheidio, gan nad oes yma neb i'm gwrandaw,' canys yr oedd y bobl wedi ffoi fel am ei bywyd pan welsant y person. Pan ddaethum i'w ymyl ef, gofynodd i mi fy enw. Minau a ddywedais wrtho hyny; yr hyn pan glywodd a ddywedodd, O, chwi i'w y gwaethaf o honynt i gyd; mi gymeraf fi ofal gyd â chwi, Syr.' Diolch i chwi,' Syr, ebe finau, ni wnaiff neb arall hyny yma, mi a welaf.' Ar hyn efe a wylltiodd yn ddychrynllyd ac a ddywedodd 'Mi a'ch cymeraf i Ruthyn, Syr.' Bydd yn dda ganddynt fy ngweled i yno,' ebe finau. Mi a'ch hanfonaf chwi i'r gaol yno, Syr, ac a roddaf ben ar eich pregethu.' 'Ond os af i'r gaol yno, mi a bregethaf o hyd, canys bum yn pregethu yno o'r blaen.' Ar hyn daeth y gŵr ieuanc hwnw o Lanfyllin, am yr hwn y crybwyllais eisioes, fel meistr ar y person ei hun fel ymladdwr—daeth hwnw yn mlaen trwy y dorf ag oedd wedi ymgynull erbyn hyn o amgylch y person a minau; a dywedodd wrthyf fi, 'Mr. Bryan, rho'wch genad i mi, ac mi a'i gwnaf ef mewn deg munud,