Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na ddaw ef byth i'ch gwrthwynebu chwi ond hyny.' 'David Davies anwyl,' ebe finau, na wnewch ddim i Mr. Jones, os ydyw dda ganddoch chi fi.' Ac ar hyn peidiodd a'i daraw, yr hyn, ebe fe, yr oedd arno ddymuniad cael cyfleustra idd ei wneyd er ys talm. Ar hyn parodd y person i un yn y dorf fyned i alw y cwnstabl; ond yr oedd hwnw oddi cartref. 'Peidiwch a chynhyrfu, Syr,' ebe fi, 'mi a fyddaf i'm cael bore fory, canys myfi a arhosaf yn y pentref hwn heno; ac yn awr, Syr,' ebe fi yn mhellach, gan edrych yn llawn yn ei wyneb, pa ddrwg a wnaethom ni? Yr ydych chwi wedi fy rhwystro i bregethu i'r bobl, ac y mae dydd yn dyfod pan y bydd i chwi roddi cyfrif am yr hyn a wnaethoch heddyw; byddaf finau yn dyst yn eich erbyn ger bron y frawdle fawr.' Ar hyn newidiodd ei wedd, ac aeth adref ar ol dywedyd, Mi gymeraf fi ofal na ddeuwch byth yma i bregethu, na neb o'ch brodyr.' A gwnaeth ei oreu i gadw ei air, ond yn gwbl ofer."

Ychwanegwn un engraifft arall o ymosodiad hynod o greulon a wnaed ar Mr. Bryan yn ystod ei ail ymweliad â Threffynnon. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes:—"Pan oeddwn yn myned trwy Pentre-Lygan cyfarfu â mi o ugain i ddeg-a'r-hugain o bobl oedd wedi ymuno â ni y Sul o'r blaen, i'm rhybuddio fod llid mawr yn fy erbyn gan rai yn y dref, oherwydd i mi bregethu mor daranllyd y Sul o'r blaen, ac yn enwedig fod y Papistiaid yn son am fy llabyddio am bregethu yn erbyn eu daliadau hwy, a bod yno ddyn ieuanc yn tyngu y saethai efe fi, ac felly yn mlaen. Ac erfynient arnaf beidio âg anturio yno." Ond yn mlaen yr aeth yr efengylwr penderfynol a gwrol. Llanwyd y Five's Court o wrandawyr astud. Ond yn bur fuan dechreuodd yr erlidigaeth. "Tra yr oeddwn yn llefaru," meddai, "disgynodd careg fawr, yr hon a daflwyd gan rywun dros y mur, ar ben merch, gan wastadhau ei bonnet. Yr oeddwn i wedi gweled y gareg yn disgyn, a gofynais a oedd hi wedi ei niweidio? Atebodd hithau nad oedd hi. Ar hyn disgynodd careg arall, oddeutu dau bwys o bwysau, ar ben merch arall, yr hon a waeddodd, Nid wyf finau wedi brifo, Syr! Ar hyn mi a godais fy llais, ac a ddywedais, Ni bydd niwaid i neb o honom heddyw: ni all na dynion na diafliaid ein drygu, yr Hollalluog a attal