Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

holl ymgais y gelyn.' Yr oedd y gŵr ieuanc a nodwyd wedi parotoi y gwn i'm saethu, ond ni allai ollwng yr ergyd allan, yr oedd ofn Duw wedi syrthio arno ef a'r erlidwyr eraill, fel ag y bu i ni gael dibenu y cyfarfod mewn heddwch. Pan godwyd y ddwy gareg i fyny yr oedd syndod ar bawb fod y ddwy ferch heb eu lladd. Dydd i'w gofio oedd hwn; a llawer a droisant at yr Arglwydd."

Nid yw yr erlidigaethau hyn ond ychydig engreifftiau, ond ystyriwn eu bod yn ddigon i ddangos y tywydd garw y daeth ein tadau trwyddo, ac mor amlwg y canfyddwn yn yr oll amddiffyniad yr Arglwydd drostynt. Ond cyfodwyd erlidigaethau gwahanol i'r rhai uchod yn erbyn ein cenhadon cyntaf,—erlidiwyd hwy o bwlpudau Cymru, a hyny gan y prif bregethwyr. Yr oedd y Parchn. John Elias a Christmas Evans yn eu herlid yn ddiarbed, ac felly hefyd y Parch. Williams o'r Wern, yn nhymor cyntaf ei weinidogaeth. Byddai y Parch. John Elias yn gwneyd ymosodiadau bryntion ryfeddol ar yr Arminiaid, fel y gelwid y Wesleyaid ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. gallwn wneyd dim yn well yma na difynu Dr. Owen Thomas. Fel hyn y dywed:—"Ac y mae yn ddiamheuol fod lliaws o'r pregethau a draddodid y pryd hwnw yn ein gwlad, yn mhlith y tri enwad Calvinaidd, yn ei gosod allan (sef Arminiaeth) mewn gwedd hagr iawn, ac yn cynwys llawer o eiriau caledion yn ei herbyn. Byddai Mr. Elias yn ei darlunio, weithiau, fel ag i greu dychryn hollol rhagddi yn meddyliau ei wrandawyr. Clywsom un yn adrodd am dano yn pregethu mewn cymanfa yn y Bala, tua y flwyddyn 1808, am Gariad Crist.' 'Yr oedd wedi cael rhyw hwyl anghyffredin i lefaru; a phan yn tynu yn agos i ddiwedd y bregeth, efe a waeddodd allan Un challenge eto i ddiawl ac Armin cyn tewi,'—Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? nes y bu y gair Armin yn fy meddwl i am flynyddoedd yn rhoi yr ystyr agosaf o bob peth i'r gair' diawl.'"

Clywsom amryw yn dywedyd nas gallasai Mr. Christmas Evans, yn y blynyddau hyny, bron bregethu un bregeth na byddai yn bwrw cawodydd o ddifriaeth ar Wesleyaeth. Mewn pregeth o'i eiddo ar Heb. vii. 22,