Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crist yn Fachniydd y Cyfamod newydd dros ei bobl, yr ydym yn cael yn mysg eraill y cyfeiriadau canlynol—"Mae Wesleyaeth gib ddall yn meddwl nad oedd Iesu yn adnabod y bobl y machniodd drostynt;' Mae Wesleyaeth mor groesed i athrawiaeth Paul ag yw yr angel drwg i'r angel da;' Prynedigaeth wanllyd iawn y mae y Wesleyaid yn bregethu ar hyd y wlad; yn cael eu cynhyrfu a'u harddel gan ddiafol i dduo gras Duw.'

Ychwanega Dr. Thomas—"Ni a glywsom ein hunain. Mr. Williams, o'r Wern, yn dywedyd:—Nid oedd pregeth yn werth dim cynt, os na byddai ynddi rhyw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda' i yn cywilyddio wrth gofio fel y bum fy hunan yn ei phaentio.'

Yn awr, dengys hyn yn eglur yr ysbryd erlidgar oedd yn Nghymru tuag at Wesleyaeth yn nghyfnod cyntaf ei hanes. Os oedd tri chedyrn Cymru—Elias, Evans a Williams, yn ei herlid fel hyn, diameu fod y pregethwyr llai yn dilyn eu hesiampl, ac felly yr oeddynt. Gwnaeth pwlpud Cymru am y deg mlynedd cyntaf bob peth yn ei allu i greu rhagfarn yn meddwl y werin yn erbyn Wesleyaeth, a'r syndod yw, i'r Arglwydd ei bendithio a llwyddiant mor fawr yn ngwyneb y cyfryw.

II. DADLEUON ATHRAWIAETHOL.

Arweinir ni yma at yr erlidigaeth a gyfodwyd ar ein hathrawiaethau trwy y wasg. Ni bu y Parch. Owen Davies. a'i gyd-lafurwyr cyntaf ond ychydig amser ar y tir, nes y gwnaed ymosodiad penderfynol ar yr athrawiaethau a bregethent. Efallai nad oedd hyn ond peth i'w ddisgwyl, pan gofiwn fod llifeiriant uchel-Galfiniaeth wedi gorlifo y wlad ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Ceir hanes lled gyflawn am y dadleuon hyn gan y Diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., yn "Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn." Ond rhaid i ni ddywedyd yn onest na ddarllenasom ddim erioed mor unochrog a rhagfarnllyd a'r bennod ar hanes y dadleuon gan Dr. O. Thomas. Mae fel un ar ei oreu yn sarhau y Parch. Owen Davies, yn gwawdio y Parch. John Bryan, yn camliwio y Parch. Edward Jones, Llandysilio, ac yn cam-esbonio y Parch. Samuel Davies. Ceisia Dr. Thomas amddiffyn y Calfiniaid