Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a ymosodent ar Wesleyaeth, ac ar yr un pryd cydnebydd nad oedd neb o honynt yn deall Wesleyaeth fel ei dysgid yn ngweithiau Mr. Wesley a Mr. Fletcher. Yn ol Dr. Thomas ei hun nid Arminiaeth efengylaidd Mr. Wesley oedd yr un a ymosodent arni, ond rhyw Arminiaeth wêllt o'r eiddynt eu hunain. Ac fel hyn, os oeddynt yn ymosod ar athrawiaeth, a hwythau heb ei deall, pa fodd y gellir eu cyfiawnhau am wneyd? Dywed Dr. Thomas am yr enwadau:—Calfinaidd: "Yr oedd eu syniadau hwy am Arminiaeth wedi eu cymeryd oddiwrth yr hyn yr ymddirywiasai iddo yn Holand, wedi marw Arminus, . . . . ac, yn wir, fel yr oedd yn cael ei dysgu ar y pryd yn Neheudir Cymru, yn yr hen gynulleidfaoedd oeddent wedi ymadael â ffydd eu hynafiaid, yn gystal ag yn nifer amlaf o'r llanau plwyfol trwy y wlad yn gyffredinol. A chanddynt hwy nid oedd yn ddim amgen na chyfundrefn yn gwneyd dyn i fesur mawr yn Waredwr iddo ei hun; Iesu Grist yn ddim mwy nag un i gyflenwi diffygion ymdrechiadau y pechadur un y mae edifeirwch a diwygiad a gweithredoedd da y pechadur yn cael, er mwyn ei aberth ef, eu derbyn er cymeradwyaeth iddo ger bron Duw. Dyma yr ARMINIAETH a adwaenent hwy. Ond yr oedd gwahaniaeth hollol rhwng Arminiaeth Wesley, o'r dechreuad, a'r athrawiaeth hon. . . . Yr oedd elfen efengylaidd drwyadl yn rhedeg trwy ei athrawiaeth ef a'r rhai a gydlafurient âg ef, fel y gwelir wrth ei ysgrifeniadau ef a'r eiddo Mr. Fletcher."

Yr ydym yn cyd-weled yn hollol â Dr. O. Thomas, nad oedd y Parchn. John Elias, Christmas Evans, William Williams, o'r Wern, yn nghyd âg eraill a ymosodent ar athrawiaethau Wesleyaidd wedi eu hefrydu o gwbl yn ngweithiau Wesley a Fletcher. Cymerasant yn ganiataol fod Arminiaeth John Wesley yr un âg Arminiaeth ddirywiedig Holand, ac hefyd yr un âg Arminiaeth Belagaidd hen Eglwys Arminaidd Deheudir Cymru. Ni raid bod yn graff iawn i ganfod fod syniad Dr. O. Thomas yn cael ei gadarnhau yn ysgrifeniadau y Parch. Thomas Jones, Dinbych, a'r rhai a gyd-ddadleuent âg ef yn erbyn athrawiaeth y Methodistiaid Wesleyaidd.