Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sef "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, mewn llythyr at Mr. Thomas Jones, yn ateb i'w lyfr a elwir 'Drych Athrawiaethol,' yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth, &c. Gan Owen Davies. Caerlleon: Agraffwyd gan John Hemingway, 1806." Dechreua Mr. Davies y llythyr hwn fel hyn—"Mae wedi bod yn fater o syndod gyd â myfi, i glywed y Calfinistiaid yn cyhuddo yr Arminiaid o gredu a phregethu Athrawiaethau, pa rai i'm sicr wybodaeth y maent o unfryd yn eu gwadu," &c. Gwna Mr. Davies yn y llyfr bychan hwn fŷr waith ar y "Drych Athrawiaethol," a gesyd Mr. Thomas Jones gerbron y darllenydd fel un tra anwybodus am Arminiaeth, ac yn gwneyd cam dybryd â Mr.Wesley, trwy briodoli cyfieithiad o adnod iddo na bu erioed yn eiddo iddo. Wrth sylwi ar Heb. x. 38, rhydd Mr. Thomas Jones gyfieithiad Mr. Wesley o honi, gan ddywedyd ei fod fel hyn "Mae y cyfiawn sydd yn byw trwy ffydd yn tynu yn ol," &c., a dywed yn mhellach "Ond am gyfieithiad Mr. Wesley, y mae yn ddïau yn ddrwg, a da os nad oedd ei ddyben ynddo yn waeth." Mewn amddiffyniad yn ngwyneb yr awgrym anfrawdol ac anesgusodol hwn, dywed Mr. Davies yn ei lyfr, tudalen 64, "Ond credwch fi, Syr, fod arnaf eisiau mwy na gras cyffredin i gadw fy natur, pan welais yn y lle nesaf (tudalen 54-55) mor genfigenus, mor faleisus, mor anghyfiawn yr ydych chwi yn cyhuddo Mr. Wesley o fod yn euog o roddi camgyfieithiad o Heb. x. 38, a hyny yn fwriadol i rhyw ddyben drwg. Ond yma mi a ddymunwn sylwi ar y naill law, fod Mr. Wesley yn deall yr iaith wreiddiol yn rhy dda i fod yn euog o gyfeiliorni o berthynas iddi; ac yr wyf yn sicr gredu ei fod yn ŵr a chanddo fwy o barch i Dduw a'i air nag yr ai i lygru neu i wyrdroi rhan o hono at unrhyw au-ddybenion; ar y llaw arall, yr wyf yn gweled eich bod chwi wedi cam-adrodd ei eiriau. Mi a fuom yn edrych heddyw mewn tri o lyfrau (Wesley's Notes, Pred. Calmy considered, and Ser. Thoughts on final preseverance), ac yr wyf fi yn gweled nad yw efe yn adrodd y geiriau fel yr ydych chwi yn eu rhoddi i lawr. Ei eiriau ydynt, nid "Y mae y cyfiawn sydd yn byw trwy fydd yn tynu yn ol," &c., eithr Os y cyfiawn sydd yn byw trwy ffydd a dyn yn ol, fy enaid nid ymfoddlona ynddo." Ac y mae eich cyfieithiad chwi