Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llyfryn swllt yn atebiad iddo, sef "Ffynhonnau Iachawdwriaeth, sef amddiffyniad i athrawiaethau gras, &c., gan B. Jones, Gweinidog yr Efengyl. Pris Swllt mewn papur glâs. Caernarfon: Argraftwyd gan T. Roberts." Gweinidog gyd â'r Annibynwyr yn Pwllheli oedd Awdwr y llyfr hwn. Yr oedd yr ymgais hon eto yn aneffeithiol i wrth- weithio yr Athrawiaeth Arminaidd, oblegid yr oedd dysgeidiaeth yr Awdwr ynddo yn llawn anghysonderau, yn gymaint a'i fod yn credu mewn etholedigaeth bersonol a diamodol, mewn iawn cyffredinol, ac yn gwadu gwrthodedigaeth. Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn 1805.

Tua'r adeg hon, ac efallai yn atebiad i'r llyfr uchod, fe gyhoeddwyd llyfr bychan arall gan un o'n tadau, sef "Gwir Gredo yr Arminiaid; neu atebiad i'r gofyniad beth yw Arminiaeth?" Yr oedd yn hen bryd i'r rhai a ddadleuent yn erbyn Arminiaeth Wesleyaidd i gael gwybod beth oedd, a dyna amcan y llyfr bychan hwn. Gwnaeth wasanaeth fawr i'n pobl, trwy ddangos iddynt mai nid yr Arminiaeth a wrthwynebid gan y Calfiniaid oedd Arminiaeth Efengylaidd John Wesley a'i ganlynwyr.

Yn y flwyddyn 1806, dygwyd allan lyfr arall yn llawn o ymosodiadau ar Wesleyaeth, sef, "Drych Athrawiaethol; yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth, mewn ffordd o ymddiddan rhwng dau gyfaill, Holydd ac Atebydd. Gan Thomas Jones. Bala: Argraffwyd dros yr Awdwr gan R. Saunderson, 1806." Awdwr y llyfr hwn oedd y Gweinidog adnabyddus hwnw yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, sef y Parch. Thomas Jones, Dinbych. Ei fodd o ymosod ar y Wesleyaid oedd, trwy eu camliwlio a cheisio creu rhag- farn yn eu herbyn, a hyny trwy geisio dangos fod yr Arminiaid yn cytuno â'r Pabyddion yn eu barn ar y pyngciau o wahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth, ac yn mhellach fod eu syniadau o ran eu hanfod yr un ag eiddo yr hen Forganiaid. Dengys hyn ar unwaith nad oedd yn deall Arminiaeth Efengylaidd y Parch. John Wesley o gwbl, ac felly nid oedd yn gymwys i'w hadolygu, ac nid oedd wrth ymosod arni yn gwneyd dim ond saethu at Gyfundrefn o'i ddychymyg ei hun.

Yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd y "Drych Athrawiaethol," cyhoeddodd y Parch. Owen Davies atebiad iddo,