Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan J. Evans, 1803." Llyfr eithafol a hollol un-ochrog ydyw hwn, a diameu iddo wneyd mwy o lawer o niwed i Galfiniaeth nag i Arminiaeth.

Yn atebiad i hwn cyhoeddodd Mr. Bryan gyfieithiad o draethawd Mr. Wesley ar "Etholedigaeth Ddiamodol, a rhai o ganlyniadau erchryslawn yr athrawiaeth hono, wedi ei gymeryd allan o waith Mr. Wesley ac eraill, yn nghyd âg ychydig ystyriaethau ar y llyfr a elwir Gwrth-feddyginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminiaeth.' Caernarfon: Argraffwyd gan T. Roberts, 1803." Ni ddarllenasom ond ychydig iawn o bethau mwy doniol na'r ystyriaethau ar lyfr Mr. Christmas Evans. Dangosant fod yr awdwr yn meddu y fath argyhoeddiadau dyfnion o wirionedd yr egwyddorion y safai drostynt, a'r fath ddawn i'w hamddiffyn, fel y gellir ystyried ei lyfr yn un o'r pethau mwyaf cyfaddas hyd yn nôd yn ol tyb Dr. O. Thomas i effeithio er sicrhau yr amcan oedd gan yr awdwr mewn golwg gyd â chanoedd o ddarllenwyr. Teimlodd Mr. Christmas Evans yn boenus o dan y fflangell hon, a chyhoeddodd atebiad i Mr. Bryan. Ond nid ydyw yn ddim amgen nag ymgais i bardduo Wesleyaeth, a'i gwneyd yn ddychryn i'w ddarllenwyr. Dywed nad yw dysgeidiaeth Wesleyaeth ar yr athrawiaeth o gyfiawnhâd yn ddim ond atheistiaeth dan orchudd, a defnyddia eiriau fel hyn wrth ysgrifenu am Wesleyaeth "Barn fawr, bobl anwyl, ydyw credu y fath bynciau. Yn wir, bobl, ni waeth lawer gwadu yr holl Feibl, na dal y tybiai hyn." Nid oes dim gwerth yn ymresymiad y llyfr hwn, a hyny am nad oedd yr Awdwr o gwbl yn adnabod Wesleyaeth fel yr ydoedd mewn gwirionedd.

Y llyfr nesaf a gyhoeddwyd oedd—"Athrawiaeth Rhagluniad Dwyfol, wedi ei ddifrifol a'i fanwl ystyried; sef, traethawd ar Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ac Helaethder y Prynedigaeth Cristionogol, gan y diweddar Barchedig John Wesley. At ba un ychwanegwyd Dwy Bregeth o waith y diweddar John Wallter. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1803." Cyfieithiwyd y gwaith hwn gan y Parch. John Hughes, Aberhonddu. Parodd cyhoeddiad y llyfr hwn gryn gyffro yn mhlith y rhai a ddalient syniadau Calfinaidd am Athrawiaethau Crefydd, i ba enwad bynag y perthynent. Cyn hir cyhoeddwyd