Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyntaf. Crybwylla am amryw argraffiadau o draethawd Eliseus Cole, ond dim gair am argraffiad 1800 o hono. Tro anheilwng iawn o hono oedd hwn.

Yn y flwyddyn 1802, cyhoeddwyd argraffiad newydd o draethawd Eliseus Cole, gan y Parch. John Humphreys, Caerwys. Cyhoeddwyd hwn, nid fel y dysg Dr. O. Thomas, yn amddiffyniad i'r Athrawiaeth Galfinaidd, ond yn hytrach fel ymosodiad ar yr Athrawiaeth Wesleyaidd. Dyma fel y dywed y Cyhoeddwr—"Diameu fod cymaint achos am fod yn ddiysgog yn yr Athrawiaethau, cedyrn, anwrthwynebol, a drinir ynddo yn y dyddiau hyn, ag a fu un amser; pan y mae cynifer, tan rith o bregethu yr Efengyl, nad ydynt ddim gwell na gelynion i'w gwir athrawiaethau bendigedig hi."

Yn atebiad i hwn ac i lyfr o waith Dr. Owen, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Parch. John Bryan yn 1803 draethawd Mr. Wesley ar yr "Arfaeth Fawr Dragywyddol, gyd âg ychwanegiadau," &c. Yn y traethawd hwn dangosi mewn modd eglur ganlyniadau rhesymegol y Gyfundrefn Galfinaidd, fel y dychrynai hyd yn nod y Calfiniaid eu hunain rhagddi. Bu y traethodyn hwn yn fwy na chyfartal (match) i draethawd Eliseus Cole. Bron yn gyfamserol a chyhoeddiad yr "Arfaeth Fawr Dragywyddol," cyhoeddwyd yn Gymreig draethawd arall o eiddo Mr. Wesley a elwid "Dyrnod at y Gwraidd." Yr oedd Mr. Wesley yn un o'r dadleuwyr tecaf, ac fel ymresymwr yn ddihafal. Yn y traethodyn bychan hwn, dengys Galfiniaeth yn ei lliw priodol ei hun, gan ddysgu fod etholedigaeth o angenrheidrwydd yn golygu gwrthodedigaeth. Dengys hyn ei fod ef yn deall Calfiniaeth yn yr un goleuni a John Calvin.

Tra yr oedd y traethodau hyn yn gwneyd eu gwaith yn effeithiol, daeth y Parch. Christmas Evans allan i geisio ei hateb, trwy gyhoeddi llyfr dan yr enw—"Ffurf yr ymadroddion iachus, yn cael ei gynyg yn Hyfforddydd i Blant Seion; neu Wrth-Feddyginiaeth yn erbyn gwenwyn Arminiaeth; yn yr hwn y gwneir sylwadau teg a diduedd, yn cynwys llawn atebiad i lyfr Mr. Wesley, a elwir 'Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol,' gan Christmas Evans, gyd â rhai nodiadau gan Titus Lewis. Caerfyrddin Argraffwyd