Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wesleyaidd. Dyma fel yr ysgrifena—" Hyd y gallwn ni ddeall, y mae yn ymddangos i ni fod yr ymosodiad cyntaf wedi ei wneuthur gan y brodyr Wesleyaidd eu hunain, trwy daenu traethodyn a elwid 'Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol, yr Athrawiaeth Ysgrythyrol yn nghylch Arfaeth, Etholedigaeth, a Gwrthodedigaeth, gan John Wesley, M.A.' Yn ol Mr. Hughes (sef y Parch. John Hughes, Aberhonddu, yn nghofiant Owen Davies), fe ymddengys i'r traethodyn hwn gael ei gyfieithu gan rhyw Lyfrwerthwr yn Neheudir Cymru, ond fod y Gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech neillduol i'w ledaenu, yn enwedig yn Sir Ddinbych; a'i fod wedi ei ddarllen gyd âg awyddfryd mawr gan lawer o bobl. Ni ddigwyddodd i ni erioed weled yr Argraffiad hwnw, a daenwyd felly, ond y mae yn ein meddiant gopi o'r hyn, ni a dybiwn oedd yn ail-argraffiad o hono, a ddygwyd allan yn y Mwythig gan Mr. Wood yn y flwyddyn 1803. Nid yw ond byr—dim ond 18 o dudalenau. Ar ei ddiwedd y mae "Casgliad o waith y Parch. John Wesley, yn dangos y canlyniadau ofnadwy yn nglyn âg etholedigaeth ddiamodol: gan yr un awdwr.' A gyfieithwyd gan John Bryan." Gwel y darllenydd fod holl ymresymiad Dr. O. Thomas yn seiliadwy ar dybiaeth, ac felly nid yw ei gasgliadau yn werth dim. Ond a chaniatau fod y traethawd o dan sylw wedi ei gyhoeddi gan Lyfrwerthwr yn y Deheudir, a bod y Gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech i'w ledaenu, eto, cyfyd y cwestiwn—Paham y cyhoeddwyd ac y lledaenwyd ef? Ni ddywed Dr. O. Thomas hyny, er yr ymddengys i ni y rhaid ei fod yn gwybod yn dda. Dyma y rheswm dros ei gyhoeddi. Yn y flwyddyn 1800, cyhoeddwyd yn Nghaerfyrddin y llyfr Calfinaidd a elwir "Traethawd defnyddiol ar ben arglwyddiaeth Duw, gan Eliseus Cole." Dengys hyn mai y brodyr Calfinaidd oedd y rhai cyntaf i ymosod, oblegid er gwrthweithio dylanwad traethawd Eliseus Cole y cyhoeddwyd cyfieithiad Cymreig o draethodyn Mr. Wesley. Ac felly cyhoeddwyd ef mewn hunan-amddiffyniad, ac nid mewn ffordd o ymosodiad, fel yr haera Dr. O. Thomas. Bu Dr. O. Thomas yn ofalus iawn i guddio y ffaith hon, a hyny, yn ddiameu, am y buasai yn farwol i'r syniad mai y brodyr Wesleyaidd a wnaeth yr ymosodiad