Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei Chwmydau a'i Chantrefydd perthynol–O barth Ardudwy, Penllyn, ac Edeyrnion, mewn cysylltiad â Meirionydd–Gwahanol drefniadau i amrywio maintioli Sir Feirionydd yn nheyrnasiad Harri VIII.

Y tebygrwydd fod y gyfundrefn sirol yn llawer boreuach yn Lloegr nag yn Nghymru–Am Gantrefydd, Cwmydau, a Swyddi–Am darddiad yr enw Sir, mewn perthynas a'r gyfundrefn sirol–Am nifer y siroedd yn Nghymru cyn y seithfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Harri VIII–AC o barth "tayawctref" a "myleindref"


Y DULL LLOSGOL O GLADDU, MEINI HIRION , A CHARNEDDAU

Sylwadau rhagarweiniol–Y dull llosgol o gladdu–Meini Hirion–A Charneddau–Cyfeiriad at ddull o gladdu gan y Daeniaid, a morherwyr y cenhedloedd gogleddol–Am y beddau a gynwysant arfau ceryg–Am pa rai yw y Carneddau a godwyd ar yr anrhydeddus–Am Grugiau heblaw Carneddau–Claddu mewn tyllau, neu feddau heb nemawr o addurniadau–O barth pa bryd y rhoddwyd heibio gladdu mewn bri o dan Garneddau neu Grugiau

PLWYF DOLGELLAU.

Yr achlysur tebygol o ffurfiad y plwyf–Safle tref Dolgellau–Am ystyr ei henw–Maint ardreth gwriogaethwyr pentref Dolgellau i'r goron yn amser Edwart I. neu'r II.–Lladdiad–Gruffydd ab Dafydd yn Nolgellau–Credlythyr Ywain Glyndwr at Frenin Ffrainc, dyddiedig o Ddolgellau–llythyr Henry Percy (Hotspur) mewn cysylltiad â rhyfel Ywain Glyndwr–Ac am Gwrt Plas yn Dre'

ADEILADAU, &c.

Eglwys Dolgellau, neu Lanfair Bryn Meurig, ac Eglwys Bryncoedifor–Y Marchnatty, ynghyd ag amseriad y ffeiriau a'r marchnadoedd — Y Llysdy a'i chwe' darlun–Y Brawdlysoedd

Lleoedd, a hanesion, neu draddodiadau perthynol iddynt–Bwlch Oerddrws–Lletty Lladron–Moel Caerynwch, neu Foel Esgidion–Gwanas, ac Ysbytty Gwanas–Gweddillion hen garnedd, Tir Stent–Carnedd Sais–Y Ddewisbren a Thyddyn y Gareg–Llyn y Gadair Goch–Y Bryn Mawr–Ffridd Ucha'r Gilfachwydd–Cae Careg y Big–Craig y Castell–Rhos Ty'n Llidiart–Llyn yr Hwylfa–Pared y Gefnir–Capel Elis


FFYNONAU

Ffynon Fair–Ffynon Rydd–Ffynon Lygaid–Ffynon y Ffridd Arw–a Ffynon y Gro