Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gymeryd yn llythyrenol bod a fynai Tybiawn fwy ag enilliad Meirionydd fel penaeth milwrol nag un o'i frodyr eraill, er'rhoddiad yr "Oresgyanaeth a'r Bendefigaeth" i Feirion ei fab. Pa fodd bynay, dywed y Proffeswr Rees[1] iddo farw yn Ynys Mangaw, ond feallai mai mewn rhanbarth o'r enw Manaw, yn yr Alban, y cymerodd hyny, lc—“in regione que vocatur Manau Guodotin," medd yr Achau Cymreig cysylltiedig a Nennius.[2]

Yr ydys eisoes wedi crybwyll y mynegir yn Ngwehelyth Iestyn ab Gwigan mai oddiwrth Meirion ab Dingad y cafodd Meirionydd ei henw. Ac ymddengys mai hwn yw yr unig awdurdod sydd yn dal hyny allan. Ond nid ydyw hyn yn penderfynol gollfarnu y mynegiad. Er hyny y mae pwys yr hanesion yn wahanol. Eithr i ddyfynu y mynegiad crybwylledig, "Meirion ab Dingad, ei ewyrth, a fu frenin ar ei ol ef ag o'i enw ef y gelwid Meirionydd, lle bu ef yn Arlwydd cyn bod yn frenin."[3]

Nid eir yma i ymyraeth am pa un a fu rhyw giwdod o bobl yn trigianu yn Ngwynedd yn flaenorol i'r Celtiaid ai ni fu. Ac ni cheisir honi na ddichon fod ciwdod Wyddelig wedi ei meddianu cyn dyfodiad y Cymry i'w phreswylio. Nac ychwaith i ddal nad oedd llu mawr o'r Gwyddyl yn parhau i aros ynddi ar ymadawiad y Rhufeiniaid. Ond ceir bodi y dengys yr hanesion traddodiadol yn Ysgrifau Iolo, i'r Gwyddyl a'r Llychlyniaid ymgyrchu i'r diriogaeth fel goresgynwyr, ac iddynt gael eu llwyr orchfygu gan feibion Cynedda Wledig a'i wyrion, Ac o barth amseriad y gorchfygiad hwn gan ei feibion, yaddengys iddo gymeryd lle rywdro yn y bumed ganrif. Ac feallai mai yn yr unrhyw eu gorchfygwyd hefyd gan ei wyrion, Caswallon Law Hir, ac eraill o honynt. Eithr os mai yn y ganrif hon y cafodd y rhai olaf y maes arnynt, tebygol na fu hyny cyn yr haner olaf o honi. Canys, yn ol Skene, yr oedd Maelgwn Gwynedd, mab Caswallon Law Hir, yn wr mewn oed pan oedd Gildas yn ysgrifenu yn y flwyddyn 560; wedi unwaith ymneillduo yn fynach oddiwrth helyntion rhyfel, a thrachefn ymafaelyd megis ya y bicell a'r cledd. Gesyd yr Annales Cambriæ farwolaeth Maelgwn yn y flwyddyn 547, amseriad sydd yn ymddangos y rhaid ei fod yn rhy foreu os mai ato ef y cyfeiria Gildas fel y golyga amryw haneswyr, a hyny yn gywir gellir meddwl. Y mae y flwyddyn 586 hefyd ymlith eraill yn cael ei nodi fel yr un y bu farw Maelgwn Gwynedd. Ystyria Stephens, Merthyr, y flwyddyn

517 fel yr un oddeutu yr hon y cafodd Caswallon Law Hir y llaw uchaf

  1. Rees Welsh Saints
  2. Four Ancient Books of Wales, Skene, Cyf. I, tud. 82
  3. Iolo MSS, tud. 6.