Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sciathhheil, llywodraethwr Leinster, o dan Heremon, er cael eu cynorthwy i ymladd â rhyw Frytaniaid niweidiol a elwid Tuatha Fiodhga, y rhai er dychrynu y milwyr Milesiaidd, a dorasant y gyd—ddeddf genedlaethol, trwy wenwyno penau eu saethau.

Ond i gyfeirio oddiwrth yr hanesion neu'r traddodiadau, gellir nodi y golyga George Chalmers,[1] mai yr un bobl oedd y Pictiaid a'r Celyddoniaid. Ac mai'r Celyddoniaid oedd y Brytaniaid gogleddol a ymladdasant yn erbyn Agricola wrth droed y Grampian a wyddom, meddai, "oddiwrth natur y dygwyddiadau, a thystiolaeth Tacitus : mai disgynyddion o'r Cynfrodorion Celtaidd ydoedd Brytaniaid Gogleddol y ganrif gyntaf, y rhai oeddynt yr un bobl a'r Brytaniaid Deheuol yn ystod yr amseroedd boreuaf sydd wedi ei brofi yn foddlonol fel sicrwydd moesol." Ac y mae Carnhuanawc,[2] er yn golygu fod yn anhawdd dweyd dim yn benderfynol am darddiad y Celyddoniaid, eto yn ystyried fod yr awdurdodau "a roddir gan Chalmers, dros darddiad Cymraeg y Celyddonwys, yn ymddangos mor gedyrn fel na ellir eu dymchwelyd, oddieithr cael allan ryw hysbysiadau nad ydynt wedi eu mynegu." Golyga Cambden,[3] fel yr ymddengys, mai yr un genedl a'r Brytaniaid oedd y Pictiaid,—hiliogaeth y Brytaniaid mwyaf hynafol, ac nid dyfodiaid mo honynt. Yr esgob Llwyd[4] a olyga mai yr un genedl oeddynt a'r Celyddoniaid, a dywed mai math mwy gerwin o Frytaniaid oedd y Pictiaid. Ac y mae Edward Llwyd yn ystyried mai hen Frythoniaid oeddynt. A Charnhuanawc a fyn mai yr un bobl oeddynt a hen drigolion yr Alban, ac nad oes ond "ychydig hyder yn ddyledus "i unrhyw hanes a noda allan eu dyfodiad. Golyga y Proffeswr J. Rhys,[5] mai cyfran oedd rhai o honynt odrigolion ynys Prydain ag oeddynt yma cyn dyfodiad y Celtiaid, ac mai ciwdod an-Ngheltaidd wedi dyfod o'r Werddon yn y flwyddyn 360 oedd cyfran arall o honynt, ac i'r rhai olaf gael eu galw yn Scotiaid,—gair Celtaidd o'r un ystyr (neu agos felly) a'r gair Pictiaid, a olyga pobl bacntiedig. Ond nid yw yn ystyried fod y naill na'r llall o'r rhai hyn yn arddel y cyfryw enwau eu hunain. Ond yma gellir sylwi y noda Edward Llwyd fod yn y Werddon ddwy genedl wahanol a chyd-drigianol, sef y Gwyddelod a'r Ysgotiaid. Y rhai cyntaf yn ddisgynyddion o Frythoniaid mwyaf hynafol Prydain, a'r lleill yn ddyfodiaid o Spaen. Ac y mae hyn yn milwrio yn erbyn

  1. Caledonia..... ..by George Chalmers, t. 191—2.
  2. Hanes Cymru, Carnhuanawc, tud. 98.
  3. Britannia..by William Cambden, translated by Phil. Holland, t. 115.
  4. Stillingfleet's........with Lloyd's Hist. Acc. of Church Gov., cyf. ii., t. 40—43.
  5. Celtic Britain, t. 235—6.