Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o hono ran o'r Alban i'r gweddill gorchfygedig i breswylio ynddi, ddarfod i'r rhai hyny "erchy" i'r Brytaniaid roddi "eu merchet ac eu kareseu" yn wragedd iddynt, yn yr hyn eu gwrthodasant. "Ac wrth hynny yd aethant wynteu" i'r "Werddon at y Gwyddyl,” a chymerasant eu merchet ac eu kareseu yn wraged udunt, ac or rey hynny yd hylyasant eu kenedyl gwedy hynny. Ac ar hynny y peydywn ar kenedyl honno. kanys ny bu darpar kennym ny traethu oc eu hystorya wynt nac or Yscotyeyt yr rey a dechrewys y kenedy'l or Gwyddyl Ffychty ac or Gwyddyl yawn." Gellir nodi hefyd y dywed yr un Brut fyned o Sulièn, tywysog ar lu o Frytaniaid, i Scythia i ymofyn am Ffichtiaid i'w gynorthwyo yn erbyn y Rhufeiniaid, ac iddo lwyddo yn ei gais. Ond y mae y crybwylliad hwn wedi ei groniclo ymhellach ymlaen ar yr hanes na'r cyfeiriad at y brenin Meurig, yr hwn y mae yn debygol oedd wriogaethol i wŷr Rhufain.

Edrydd Beda, oddiar draddodiad llafaredig neu ysgrifenedig, i genedl y Pictiaid o Scythia, ar ol myned i'r môr mewn ychydig o longau hirion, gael eu gyru o flaen y gwynt hyd at lanau'r Werddon.[1] Ac i'r trigolion, mewn atebiad i'w cais am le i drigianu yn yr ynys, ddywedyd wrthynt nas gallai eu cynal hwy a hwythau. Ond ddarfod iddynt ddywedyd y gallent roi cyngor da iddynt beth i'w wneuthur, bod ynys arall heb fod ymhell, yr hon yr arferent ei gweled yn aml ar ddyddiau goleu. Ac os elynt yno y caent le i breswylio, neu os eu gwrthwynebid y deuent hwy i'w cynorthwyo. Mynega hefyd nad oedd gan y Pictiaid wragedd, ac na roddai y Scotiaid mo'u merched yn wragedd iddynt ond yn unig ar yr amod y dewisent frenin o'r llinell fenywaidd yn hytrach nag o'r un wrywaidd pan godai rhyw ddyryswch. Yn ol Keating,[2] mynega Cormac Mac Cuillenan, yn ei Psallter Cashal, ar ol iddo adrodd am helynt y Pictiaid yn Thracia, ac yna yn Ffrainc, a thrachefn yn y Werddon, ddarfod iddynt ar eu hymadawiad o'r ynys hono, yn herwydd drwg a gyfododd rhyngddynt â Heremon y brenin, geisio cael rhai o'r Miliesiaidesau i fyned gyda hwynt. A thyngasant yn ddifrifol y cai llywodraeth y wlad, os deuai i'w dwylaw, dreiglo yn nheulu y rhai hyny. Yna Heremon, ar y cyfryw sicrwydd, a roddodd iddynt dair o wragedd gweddwon o nod, un o ba rai a gymerodd y prif lywydd iddo ei hun. Yn ol yr un awdurdod hefyd, cafodd y bobl hyn dderbyniad croesawgar ar y cyntaf yn y Werddon, a hyny, fel yr ymddengys, gan un a eilw yn Criomthan

  1. Mynega John Lewis i'r ystyr yr hòna rhai mai i ororau Ynysoedd yr Æbudas yr aethant. Gweler Hist. of Gt. Britain........to the death of Cad. ganddo, t. 58.
  2. Keating Hist. of Ireland, t. 110-21.