Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynodir y gelynion hyn. Ymddengys bod y rhai a elwir yn Wyddelod, Scotiaid, Pictiaid, ac Attocatiaid, ynghyd â llwythau eraill, yn myned o dan yr enw Gwyddyl Ffichti. Hefyd hiliogaeth o Frytaniaid trwy ymgymysgiad, neu Frytaniaid o fodd arall; ynghyd â chyfran o Saxoniaid, unedig ar adegau o leiaf a'r Gwyddyl Ffichti. Ond ymddengys fod Gwyddelod y Werddon a'r Llychlynwyr yn cael eu galw weithiau yn Wyddyl mewn perthynas â'u helyntion yn Nghymru. Eithr dynodir hwy hefyd yn Wyddelod a Llychlynwyr, neu Wŷr Llychlyn, yn ol fel y gelwir y rhai olaf bryd arall. O barth yr enw Gwyddyl Gaflachawg, y mae yn ymddangos mai cyfeiriad sydd yn y gair Gaflachawg at eu heirf rhyfel, ac y buasai eu galw yn Wyddyl Picellawg o'r un ystyr. Ymddengys hefyd bod yr enw Gwyddyl ynddo ei hun yn gyfystyr â Gwyddelod. Dywed y Proffeswr J. Rhys nas gellir priodoli yr un ystyr gwahanol i Scotiaid Nennius nag mai Gwyddelod oeddynt.[1] Ond er hyn, caniataer nodi yma, nad yw yn ymddangos bod un lle rhesymol iddo i daflu amheuaeth nad Gwynedd ydyw'r man neu un o'r manau eu gorchfygwyd gan Cynedda a'i feibion, yn unol âg yr enwir eu tad mewn cysylltiad â hwy yn neu gan Nennius.

O barth yr enw Gwyddyl Ffichti a geir ar y giwdod grybwylledig, y mae yn rhy anhawdd penderfynu o ba achos y tarddodd. Awgryma'r enw bod rhyw gysylltiad rhwng y Ffichtiaid a'r Gwyddyl. Ac os oes coel i'w roddi ar yr hanesion traddodiadol mewn perthynas iddynt, tardd oherwydd cymysgiad y ddwy genedl trwy briodasau. Ond ystyria y Proff. J. Rhys mai chwedl wedi ei dyfeisio ydyw'r traddodiad hanesyddol am y priodasau, oherwydd dieithrwch y dull beri i olyniaeth ddisgynol eu brenhinoedd ddisgyn o'r fam ac nid o'r tad. Ac ymresyma fod y ddefod o osod y llywodraeth yn nwylaw disgynyddion llinellol o'r fam ac nid o'r tad yn dangos mai tebycach ydyw fod y cyfryw i'w phriodoli i breswylwyr cyntefig an-Ngheltaidd yr ynys hon.[2] Y Trioedd a ddywed ddyfod o'r "Gwyddyl Ffichti” i'r Alban drwy For Llychlyn. Ac os ydys i ddeall eu bod yn dwyn y cyfryw enw cyn eu dyfodiad hònedig i'r Werddon trwy For Llychlyn, prin y gellir ystyried hyn yn cydfyned â'r traddodiad. Ond i gyfeirio ato, dywed y Brut, a elwir Brut G. ab Arthur,[3] yr un mewn ystyr a Brut y Brenhinoedd, ddyfod "Rodryc brenyn y Ffychtyeyt," a "llyghes vawr kanthaw o Scythya," gan ddisgyn yn ngogledd yr ynys yn "y lle a elwyr yr Alban." Mynega hefyd fyned o'r brenin Meurig a llu yn ei erbyn, a’i ladd, a chael y fuddugoliaeth. Ac wedi rhoddi

  1. Celtic Britain, t. 243
  2. Celtic Britain, t. 166, 7.
  3. Myf. Arch., ail arg., tud. 504, 5.