Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth "Manuba" yn y dyfyniad hwn dichon mai ynys Manaw a olygir. O leiaf, ceir rhyw debygrwydd yn yr enw hwn i "Monabia,” sef y dull y gosodir yn ngwaith Cambden a John Lewis,[1] bod Pliny yn galw yr ynys hono. Ymddengys mai at yr un gorchfygiad mewn ystyr y cyfeirir yn y naill Drioedd fel y llall. A chan mai yr un faint yw nifer y blynyddoedd a roddir yma fel hyd amser trigianiad y lluoedd estronol hyn yn Ngwynedd, ag a osodir dros ben can' mlynedd y dyfyniadau blaenorol, nid ydyw yn rhy annhebyg mai at yr unrhyw gyfnod, mewn rhan, o leiaf, y cyfeiriant. A chan fod Caswallon yn enw ar Gadflaenor perthynol i'r hanesion neu'r traddodiadau hyn hefyd, er y rhoddir gwahanol ddisgyniad achyddol iddynt, y mae yn hytrach yn fwy o rym i synio felly. Ond os mai Caswallon ab Beli mewn gwirionedd yw un o'r ddau y cyfeirir ato, yna cymerodd y gorchfygiad ganddo le, fel yr ymddengys, yn y ganrif flaenorol i'r cyfrif presenol. Derbynia R. W. Morgan, Tregynon, y gorthrechiad hwn fel yn perthyn i Caswallon ab Beli ab Manogan, ac y mae Carnhuanawc yn ei gymeryd fel peth tebygol. Ond gogwydda W. Basil Jones i dybio mai Caswallon Law Hir ydoedd, ac mai at orchfygiad y Gwyddelod yn y rhyfel hwnw y cyfeirir mewn gwirionedd. Yr ydys yn cael yn y crybwyllion hyn enw penaeth,—Ganfal Wyddel, —na chaed sôn am dano mewn cysylltiad â rhyfel Caswallon Law Hir.

Pa un bynag a ddarfu i'r Gwyddyl ymsefydlu yn Meirionydd ar ol y chweched ganrif ai naddo, ymddengys y bu ganddynt afael ar Ardudwy, neu ryw gyfran o honi, yn yr haner olaf o'r ddegfed ganrif. Canys yn Mrut y Tywysogion, adysgrifenedig gan Iorwerth ab Iorwerth, dywedir i Rhodri ab Eidwal gael ei ladd gan. Wyddelod Môn, yn y flwyddyn 966. Ac o'r herwydd i Iago ab Eidwal ddiffeithio Aberffraw, lle yr oedd y Gwyddelod yn trigianu, gan eu lladd "hwynt yn eu holl anneddfäoedd ym Môn, ac nis gallasant fyth wedi hynny ymluyddu yn erbyn y Cymry." Ar ol hyn aeth i "Arfon, a Lleyn, ac Ardudwy," gan yru'r Gwyddelod "yn gwbl” ymaith "o'r Gwledydd hynny ac nis gallwyd Cenedl o honynt fyth wedi hynny yng Ngwynedd." Ffodd llawer o honynt i Geredigion, a "Dyfed, a Gwyr, ac Einion ab Owain ab Howel Dda a aeth yn eu herbyn, ac au gorfyges yn aruthrawl, ac a laddes Wyr Denmarc a ddaethant yng Ngyfnerth y Gwyddelod."

Bellach, ceir sylwi ynghylch y gwahanol enwau wrth y rhai y

  1. Cambden Britannia, Gibson, arg. 1695, t. 1052. Hist. of Gt. Britain till the death of Cad........ by John Lewis....tud. 228.