Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Man-Gofion, ceir bod y ddau yn oesi yn amser Maelgwn Hir, bardd Sant Teilo. Ac ystyrir, yn ol y Gwyddoniadur, bod y sant hwn yn byw yn y chweched ganrif. Heblaw hyn y mae grym y sylw a wnaed eisoes mewn cysylltiad a ""Gwyddnyw ap Gwydion" yn ategiad cryf i gywirdeb yr amseriad hwn. Crybwyllwyd yn barod y gosodir allan, o dan y penawd "Serigi," mai ar ol mynediad y Rhufeiniaid o ynys Prydain y daeth meibion Cynedda i Wynedd. Ac y mae yr un awdurdod yn dywedyd ddarfod i Serigi, sef Serigi neu Syrigi Wyddel, gymeryd "arnaw unbennaeth Môn a Gwynedd ar Cantref."[1] A bod cymaint gormes y Gwyddelod nes y danfonwyd cenhadau at Cynedda Wledig ac iddo yntau anfon ei feibion i Wynedd. Penacth oedd Cynedda Wledig o ogledd Lloegr, neu ddeheubarth yr Alban, ond hawliai amryw ardaloedd yn Nghymru oddiwrth Gwawl, ei fam, ferch Coel Godhebawg. Wrth y Cantref yn y dyfyniad hwn yr ydys newydd roddi y golygir Meirionydd hynafol, neu y fan a'i cynwysa fel yr ymddengys. Ceir cyfeiriad hefyd tebygol at yr unrhyw fan wrth yr enw "Cwmmwd" yn y dyfyniad dilynol, allan o Cof Cyfarwyddyd yn Ysgrifau Iolo :"307, Bu haint mawr achos Celaneddau ymladdau a bu farw anferthrif yn wir a gweision a merched a Gwragedd cyflawnoed gwr a gwraig a mwy na hanner plant Ynys Prydain, achos hynny y bu Gormes y Gwyddyl Ffichti yn y Gogledd a'r Gwyddyl gaflachawg a'r Llychlynwys ym Môn ag Arfon a'r Cwmmwd."

O barth yr amseriad dyfynedig mewn cysylltiad a'r cof hanesyn uchod nid gwiw rhoddi pwys arno. Wrth y "Gogledd" y golygir, fel yr ymddengys, yr Alban, neu yn hytrach ran o honi, ynghyd â Gwyddyl chyffinydd Lloegr. Yn y Trioedd, gosodir yn ail, o'r "Tair Ciwdawd Ormes" y mynega iddynt ddyfod i ynys Prydain a myned o honi; "Lluoedd Ganfal Wyddel a ddaethant i Wynedd, ac a fuant yno nawmlynedd a'r hugain, hyd yn a'u gyrrwyd hwynt i'r Môr y gan Gaswallawn ab Beli ab Mynogan." Trioedd arall a esyd yn gyntaf o dair "Haint Echrys ynys Prydain:" "Haint o Gelanedd y a laddwyd ym Manuba gwedi gormesu ohonynt ugain mlynedd a naw a'r wlad Wynedd."

  1. Gwelir y gosodir yn y dyfyniad uchod, Fôn a'r Cantref y tuallan i Wynedd.
    O barth Meirionydd a lleoedd eraill yn Nghymru ag y dywedir eu galwyd ar ewau melblon Cynedda Wledig, sylwa Mr. Breese, yn ei Kalenders of Gwynedd, t 9, mai tebycach ydyw "megis y dyfalwyd gan yagolaig Cymreig diweddar," ceir felly nid enwau personau, eithr enwau llwythau bychain o'r un cyff-genedl a ddaethant i lawr ya raddol o Ogledd Prydain, gan yru y Gaeliaid o'u preswylfeydd yn Ngwynedd. Wrth yr ysgolhaig Cymreig uchod, golygir W. Basil Jones awdwr y Vestiges of the Gael in Gwynedd. Ond ymddengys nad yw y dyfaliad hwn ganddo yn haeddol o'i ddilyn. Y mae yn ymddangos y tybia rhai mai colli ei wlad ei hun a wnaeth Cynedda Wledig.