Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HYSBYSIAD.

FEL y gwelir oddiwrth y wyneb-ddalen, bu Mr. R. Prys Morris farw cyn cwblhau y gwaith ag yr oedd wedi gosod ei fryd yn gymaint amo. Wedi nychdod blin am rai wythnosau, bu farw Ddydd Gwyl Dewi, 1890, yn 59ain mlwydd oed, ac y mae yntau erbyn hyn yn gorphwys yn ymyl ei rieni, y rhai y cyfeiria mor dyner atynt yn nghyflwyniad y gyfrol. Ond er na chafodd yr awdwr fyw i weled y llyfr wedi ei gyhoeddi, darllenodd bron yr oll o'r prawfleni; ac y mae tegwch tuag ato ef yn gystal a'r argraffydd, yn galw arnom ddweyd mai yr awdwr yn gwbl a hollol sydd yn gyfrifol am y gwaith hwnw hyd o fewn dau blyg i ddiwedd y llyfr. Ei brif ddymuniad ydoedd am gael llaw rydd; ond cydnabyddai cyn cwblhad y llyfr ei fod, oherwydd prysurdeb a phwysau llawer o waith arall, wedi gadael i amryw wallau lithro i mewn. Bwriadai gywiro rhai o'r pethau hyny, ond cymerwyd ef ymaith cyn cwblhau y gwaith. Felly nid oes genym ond cyflwyno y llyfr i'r cyhoedd fel y daeth o law yr awdwr, gan obeithio y rhoddir i'r anturiaeth y gefnogaeth a ddisgwyliai efe,

Ebrill, 1890. — Y CYHOEDDWR.