Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ac yn uffern efe a gododd ei olwg. (Dyna'r tro cyntaf iddo fo neyd hynny 'rioed. Edrach ar i lawr y bydda'r gŵr yma yn wastad o'r blaen; pawb a phopeth yn isel yn ei olwg o. 'Doedd dim byd ond crasiad ym mhobty'r diafol yn ddigon effeithiol i neyd i hwn edrach i fyny!). "Ac efe mewn poenau a ganfu Abraham o hir—bell a Lazarus yn ei fynwes." (Fedra i ddim sbonio i chi sut yr oedd o, a fynta yn uffern, yn gweld Abraham oedd yn y nefoedd; ond mi wn hyn, fod poen yn gweld ymhell ofnadwy! Pan fyddwn i ym mherfeddion yr India hefo'r armi, mi ddoi yna hiraeth dychrynllyd drosta i, weithia; cymin o hiraeth nes y byddwn i yn gweld yn reit blaen, dros filldiroedd filoedd o for, i dŷ nhad a mam yn Llanrwst. Dydi poen meddwl ddim yn delio mewn telisgops; sywaeth, mae o'n gweld llawn gormod hebddynhw.) "Ac efe a lefodd ac a ddywedodd,-Ŏ, dad Abraham, trugarha wrthyf." (Welwch chi, dyna fo yn dechra dwad at i strapia, 'rwan. Drychwch ar yr haearn yna; yn dydi o yn galed ac yn stiff; ond rhowch o yn y tân am dipyn, ac mi ddaw yn ddigon ystwyth i chi ei droi a'i drin o fel fynno chi. Creadur caled, styfnig, a syth ei warr oedd y gŵr goludog yma; ond wedi iddo fo fod yn nhân uffern am 'chydig, mi stwythodd i gymala fo'n riol. Mi ddaru gwres y fflam gynta ddôth i'w gwarfod o i blygu fo mewn dau funud. Mewn cawod o frwmstan y gweddiodd y dyn yma am y tro cynta rioed! A gweddio mae o hyd y dydd heddyw; a 'does yna ddim. argoel fod y weddi na'r storm yn darfod! Go- beithio, bobol anwyl, mai nid yn y pwll diwaelod yr ewch chi ar eich glinia am y tro cynta; os