Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr oedd rhyw wr goludog " (un o brif sgweiars gwlad Canan oedd hwn), "ac a wisgid a phorffor a llian main" (mi ffeiai o fod o'n talu mwy i'r teiliwr nag i'r person); "ac yr oedd yn cymeryd byd da yn helaethwych beunydd" (cymeryd ei fyd da, yr oedd o, sylwch, ac nid ei gael o gan neb.. 'Doedd y dyn yma yn hidio dim fod cwpwr y wraig weddw yn wag, na fod yr hogyn amddifad heb yr un crys i'w newid. Cymeryd oedd i fusnes o o hyd. Mi fedra creadur fel hwn futa pentra ac yfed plwy mewn rhyw fis ne ddau). Yr oedd hefyd ryw gardotyn a'i enw Lazarus" (dydi'r Ysbryd Glân ddim wedi rhoi enw'r gŵr goludog i ni. Wyrach nad oedd o ddim yn delio rhyw lawer hefo sgweiars. Ond am enw'r cardotyn, mi gafodd hwnnw ei roi'd i lawr ar registers y nefoedd). "A bu i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd" ('does yma ddim son fod y cardotyn wedi cael ei gladdu. 'Dydw i yn ama dim na ddaru y leiving officer ddechra partoi at hynny drwy roi ordors am arch a bedd iddo fo; ond dyna droop o angylion yn dwad i lawr, ac yn drysu ei blania fo i gyd. Mae'n fwy na thebyg fod y saer a'r torrwr beddi yn ddigon dig wrthynhw am intraffirio hefyd. Mi gydiodd footmen y Goruchaf yno fo, rags a phopeth, ond mi ddarun ofalu am newid i siwt o pan oedd o yn yr act o groesi'r afon. Mi roison lian main y nefoed —y wisg ddisgleirwen oleu '-am dano fo. Pan rôth o'i droed i lawr ar lan Pacific Ocean tragwyddoldeb, 'doedd yna yr un gŵr bynheddig smartiach na fo yn ranks yr Hollalluog ei hun!)