Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXI. Y GWEINIDOG O'R DE.

LAWER o flynyddau yn ol, fel y gwyddis, peth cyffredin iawn i gryn nifer o weinidogion Methodistaidd, o'r De yn arbennig, oedd arfer teithio o fan i fan drwy wahanol Gyfarfodydd Misol y Gogledd. Deuai rhai ar feirch, ereill gyda meirch a cherbydau, tra y byddai ereill yn nosbarth "y gwyr traed." Gwneid y dosbarth diweddaf yma i fyny o rai heb ddysgu "ceffogaeth" na dreifio, neu, rhai rhy dlodion i brynnu ceffylau, nac i dalu am eu. benthyg, neu, yn rhy syml eu doniau pregethwrol i sicrhau eu benthyg yn rhad, "am ddim. ond eu bwyd," fel y dywedid.

Un tro, deuai un o ddosbarth diweddaf "y gwyr traed" yma ar daith drwy Gyfarfod Misol sir Ddinbych. Nid oedd yn dod i fyny. â nodweddion y pregethwr mawr, dwfn, doniol, a hyawdl, ond yr oedd ganddo eithaf "telyn," a byddai honno yn swyno y lliaws i'w ddilyn. Nid y tro y cyfeirir ato oedd yr un cyntaf iddo i ddod drwy sir Ddinbych, felly yr oedd rhai brodyr craff a pharod wedi cael man- tais i'w adnabod yn weddol y tu allan i'r pulpud. Ystyrrid ef, a hynny yn hollol gyfreithlon, yn wr crefyddol iawn, ac yn un nodedig o selog dros achos dirwest. Dywedir y cariai ei sel dros lwyr-ymwrthodiad i eithafion, weithiau. ychwanegol at hyn yr oedd yn un rhy dueddol i roddi ei ymddiried ymhob math o ddyn. Credai bopeth ymron a ddywedid wrtho. Nod-