Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedd arall yn y gweinidog da hwn oedd ei barodrwydd i gynghori yn ddibaid. Byddai ganddo air o gyngor i bawb y deuai i gyffyrddiad â hwy. Cynghorai weision a morwynion, meistriaid a meistresi, blaenoriaid a phregethwyr ieuainc, yn y dull mwyaf defosiynol. Ac i orffen y gwir, mae yn rhaid addef y byddai llawer iawn yn diflasu ar ei gynghorion rhad a pharod, nes myned ohonynt yn gwbl ddieffaith. Dyweder fod morwyn yn corddi, neu was yn dyrnu, elai efe atynt pan y byddent ar ganol dyledswyddau o'r fath. Rhoddai res hirfaith o gynghorion iddynt, a dyfynnai adnodau pwysig a goludog wrth y dwsin; ond y gwir yw y byddai yr holl ymgais at bastynu crefydd i enaid o dan amgylchiadau o'r fath, yn cael yr un faint yn union o ddylanwad ar y forwyn neu y gwas ag a gai ar y fuddai neu y ffust. Nid oedd y gŵr yn adnabod yr amser na'r person cyfaddas i roi cyngor.

Dyna'r darllennydd yn awr, mi obeithiaf, yn deall rhyw gymaint am nodweddion cymeriad y gweinidog hwn. Wel, ar noson neillduol yn ystod ei daith, yr oedd i bregethu yn Llanrwst. Yn y bore yr oedd wedi pregethu yn Nhrefriw, ac yn ystod y prydnawn aeth gŵr adnabyddus, a alwaf fi yma yn John Jones, ymaith tua'r pentre dyddorol hwnnw i'w hebrwng i'r dre. Gyda golwg ar y John Jones hwn, rhaid i mi gymeryd anadl i ddweyd ei fod yn Fethodist o'r rywogaeth berffeithiaf; ond, yn wahanol i fwyafrif Methodistiaid y cyfnod hwnnw, yr oedd yn dipyn o'r hyn a elwir heddyw yn "wag." Caniatai crefydd John Jones iddo fod yn ddigrif, weithiau. Nid oedd ei "Gyffes Ffydd" ef yn