Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dweyd wrtho y byddai yn golledig os digwyddai chwerthin. Rhoddai y parch dyladwy i genadwri adnod, ond nid oedd arno ofn prynnu papyr newydd. Byddai yn bresennol yn rheolaidd yn y cyfarfodydd eglwysig, ond rhoddai glec ar ei fawd os sonnid am ei ddisgyblu am siarad gyda bardd ar yr heol. Wrth gwrs, yr oedd ei grefydd yn credu mewn myned ar ei gliniau, ond credai hefyd mewn codi ar ei thraed, weithiau. Deallai fod athroniaeth yn y llinell,-

"Y dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo."

Dyna, yn fyrr, ddesgrifiad o'r math o wr oedd yn myned i gyfarfod y gweinidog o'r De. Prin y mae eisieu ychwanegu fod John Jones yn hollol gydnabyddus â Tomos Williams. Adwaenai wendidau a rhagoriaethau yr hen frawd. Dichon ei fod yn dueddol i fanteisio ychydig yn fwy, weithiau, ar yr hyn oedd wan yn hytrach nag ar yr hyn oedd wych ynddo. Nid oedd neb yn y dre a fedrai dynnu Capelulo yn fwy allan, fel y dywedir, na John Jones. Y mae y castiau a'r triciau a chwareuodd ag ef, o bryd i bryd, yn lliosog iawn. Medrai gael gan Tomos Williams i esbonio y Beibl, i weddio, neu i adrodd cerdd yn y man ac ar y pryd y mynnai. Nid oedd, efallai, yn hollol ddieuog o gyfansoddi "emyn," gan ei dysgu i Tomos, yr hwn, yn ddiniwed hollol, a'i rhoddai allan mewn cyfarfod i weddio, nes peri'r chwyldroad mwyaf ofnadwy yn eneidiau y saint fyddai o gwmpas. Gan fy mod yn son am beth fel hyn, dyma esiampl o un