Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"emyn" a roddodd Tomos allan unwaith, wedi ei hysprydoli, yn ddiameu, gan John Jones,-

"Bore heddyw, pan yn teithio
Ar hyd llwybrau'r Garreg Walch,
Credwn, deuwn, er fy nued,
Rywdro'n wyn fel carreg galch."

Enw ar y coed mawrion sy'n ymestyn ar ochr sir Gaernarfon i Lanrwst yw Carreg Walch, ac y mae yr hen ffordd i Fetws y Coed yn myned. drwyddynt.

Wedi i John Jones a'r gweinidog gyfarfod â'u gilydd, yr oeddynt yn cyd-drafaelio i Lanrwst ar hyd yr hen ffordd i gyfeiriad y Pren Gwyn. Cofier nad oedd "ffordd Gower" yn bod hyd yn oed mewn dychymyg y pryd hwnnw. Pan oedd y ddau yn dynesu at y lle a elwir yn Ysgubor Gerrig, yr oedd Tomos yn dod yn araf i'w cyfarfod gyda'i becyn yn ei law; ond, yn ol ei arfer weithiau, safodd yr hen frawd yn sydyn i ymddiddan âg ef ei hun, neu, efallai, â'r coed a'r cloddiau oedd o'i ddeutu. Cyfeiriodd John Jones sylw y gweinidog ato (cofier nad oedd y gŵr dieithr, yr hwn oedd ar un o'i deithiau cyntaf i sir Ddinbych, yn adnabod Capelulo eto), ac ar unwaith rhoddodd ffrwyn i'r ysfa am ddifyrrwch oedd ar brydiau yn llanw ei enaid. "Welwch chwi," meddai, "yr hen wr sydd yn y fan acw yn gwneyd y fath ystumiau gwrthun arno ei hun? Eu gwneyd y mae i dynnu eich sylw chwi, oherwydd gŵyr mai gweinidog ydych. Dyna un o'r rhagrithwyr pennaf sydd yn Nyffryn Conwy. Mae yn byw ar ddweyd celwyddau. Cafodd anwiredd ac