Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yntau eu siglo yn yr un cryd. Mi fuasai yn prynnu anadl olaf ei fam i ddweyd celwydd. Cymer arno, gyda'r llwon mwyaf ofnadwy, ei fod yn ddirwestwr, ac yn aelod gyda'r Method- istiaid yn y Capel Mawr. Gwna hynny er mwyn cael gennych chwi a'ch tebyg brynnu rhyw hen sothach o gerddi di-ras a di-awen a werthir ar draws gwlad ganddo. Peidiwch coelio yr un gair a ddywed wrthych; ond, da chwi, trowch ato, a chynghorwch ef i roddi heibio ei ragrith a'i gelwydd anioddefol. Dyma fo yn ymyl; mi gadawa i chwi hefo'ch gilydd am funud, gan fod arnaf eisieu galw yn y 'Sgubor Gerrig yma.'