Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'does gen i ddim gronyn o ragrith, ac os na wneiff fy nhafod i y tro i'ch setlo chi, 'dydw i ddim yn rhy hen i dreio rhywbeth mwy effeithiol."

"Pw, pw," oedd ateb y gweinidog, "peidiwch a meddwl y medrwch fy nharfu fi. Mae mwy o dwrw nac o daro yn perthyn i chwi. Pam, mewn difri, na chymerwch chwi gyngor i roi heibio dweyd anwireddau o ddydd i ddydd. Dyna chwi yn cymeryd arnoch fod wedi bod yn rhyfeloedd Napoleon a Wellington, tra na welsoch chwi ergyd ddifrifol yn mynd allan o wnn erioed."

Erbyn hyn yr oedd Tomos yn dechreu cynhyrfu a digiloni, ac meddai wrth ei edliwiwr,—"Wel, yr hen frawd, cymer di warning mewn pryd; dos di yn dy flaen am 'chydig ffor yna ac mi gei di ddyrnad o bowdwr Waterlŵ ar dy wymad. Dydi crefydd Iesu Grist-a 'dwyt ti ddim yn credu honno, ddyliwn—ddim yn gofyn i neb gymryd ei insyltio drwy gael ei alw yn ddyn celwyddog ac yn rhagrithiwr. Cymer di yn ara deg, ac mi ddanghosa i i ti fod mwy o grefydd yn fy nyrna i nag a fu yn dy galon di 'rioed, y cena diffaeth."

"Rhag c'wilydd i chwi, Tomos Williams," ebe y pregethwr, yn bwysleisiol iawn, ac yn dra defosiynol, yr wyf yn synnu at eich ymadrodd- ion; nid ydynt yn gwneyd dim ond profi yr hyn yr wyf fi wedi ei ddweyd am danoch yn barod. Da chwi, wr da, cymerwch fy nghyngor, a rhowch heibio eich dull pechadurus o fyw. Peidiwch byth ar ol hyn a honni eich bod yn didotal, a'ch bod yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Nid oes yr un enwad