Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tra yr oedd y cweryl dyddorol yn myned ymlaen wrth yr Ysgubor Gerrig, yr oedd John Jones anturiaethus yn mwynhau y cyfan o fewn ychydig lathenni i faes yr ymryson. Ofer ceisio desgrifio yr hwyl a gafodd. Prysurodd i Lan- rwst at gyda'r nos. Eilliodd ei farf a'i fwstas golygus yn llwyr, a chafodd dorri ei wallt cyrl- iog a hir yn hollol fyr. Fore drannoeth, ym- wisgodd mewn ffroc côt ddu a newydd ymron, a gwasgod wenfrith, a throwsus yn cyfateb, gyda chadwen a seliau mawrion yn crogi allan o un o'r pocedau. Rhoddodd het silc raenus ar ei ben, modrwy aur ar un o'i fysedd, a phâr o fenyg a ffon yn ei law. Aeth i dŷ cyfaill, wrth yr hwn yr oedd wedi dweyd yr holl hanes, a chyrchwyd Capelulo a'r pregethwr yno ato erbyn tua deg o'r gloch. Gwnaeth olwg mor awdurdodol a mawreddog arno ei hun ag oedd yn bosibl, a cheisiodd ei oreu newid ei lais, am wneyd yr hyn yr oedd yn dra galluog. Nid oedd y gweinidog na Tomos Williams yn ei ad- nabod o gwbl. Dywedodd John Jones wrthynt heb argoel gwên ar ei wyneb, mai efe oedd prif ustus sir Gaernarfon, a'i fod wedi clywed am yr helynt y noson flaenorol ar ffordd Drefriw, ac mai ei neges oedd cael y pleidiau i gymodi â'u gilydd, neu y byddai yn rhaid codi gwarant i'w cymeryd i garchar yn ddioed. Dychrynnodd y ddau yn fawr, ac adroddodd y naill a'r llall ei stori am y ffrwgwd oedd newydd ddigwydd. Gwrandawai yr ustus hunan-etholedig gyda di- frifwch clochyddol, ac ar derfyn y gwahanol adroddiadau trodd at y gweinidog gyda graddau o lymder barnol, a dywedodd wrtho mai arno ef yr oedd y bai, ac mai gwell fyddai iddo fegian