Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pardwn "yr hen sowldiwr," a thalu sofren o iawn iddo. Yn falch o'i galon o gael dianc o wyddfod gŵr mor beryglus, erfyniodd am fadd- euant Tomos, a thynnodd gudyn cotwm mawr o'i boced, a chyda llaw grynedig estynnodd y sofren iddo, yr hwn, heb yr un gair o ddiolch, a'i cy- merodd, ac yna aeth pawb i'w fan, heb feddu y ddirnadaeth leiaf mai John Jones oedd yr "ustus" a'r prif achos o'r helynt i gyd.

Y nos Sul dilynol yr oedd yn y Capel Mawr gasgliad at ryw achos da, a rhoddodd Tomos Williams sofren yr hen weinidog i mewn yn y ladel. Gweithredai hynny, mae'n debyg, fel olew ar ddyfroedd cynhyrfus ei gydwybod.