Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXIII. RHYFEL A SATAN.

byddai Tomos Williams pan yn annerch gwahanol fathau o gyfarfodydd. Nid oedd o bwys yn y byd ganddo ef beth a fyddai nodwedd y cyfarfod, ai llenyddol, dirwestol, cre- fyddol, gwleidyddol, ai beth; byddai ganddo ef, wedi codi i fyny i siarad, gyflawnder i'w ddweyd. Chwalai yr India, Spaen, Ffrainc, a Gibraltar am hanesion a chymhariaethau. Medr- ai son am frwydrau Austerlitz, Wagram, Quatre Bras, Waterloo, neu y Nil a Thrafalgar, gyda chymaint o fanylwch a phe mai efe ei hun oedd yn cyfarwyddo pob catrawd, ac yn tanio pob magnel oedd ynddynt. Ymddanghos- ai mor gynefin â symudiadau Blucher, Welling- ton, Syr Thomas Picton, a Napoleon, a phe bu- asai wedi bwyta wrth yr un bwrdd, a chysgu yn yr un gwely a hwy holl ddyddiau ei fywyd. Ar ol Wellington, neu, efallai, o'i flaen, y "Little Corporal," oedd gwron Tomos Williams. Nid oedd glawdd na therfyn i'w edmygedd o'r dyn rhyfedd ac ofnadwy hwnnw; a gallai ad- rodd chwedlau wrth y cant am dano. Hoffai, weithiau, droi yn dipyn o gritig milwrol. Dy- wedai unwaith,—

Napoleon oedd y general mwya welodd y byd yma rioed ar ol Alexander Fawr. Secrad mawr ei lwyddiant o oedd na pheidiodd o ddim a bod yn sowldiwr ar ol cael ei wneyd yn