Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

general." Sylw go dda, ac un eithaf teilwng o ystyriaeth byddin Prydain yn y dyddiau hyn.

"Mi fedrai Napoleon," meddai, dro arall, "ymladd fel teigar hefo gelyn am ddiwrnod, ac os basa fo'n un dewr, mi fasa'n cysgu noson yn galonnog yn ei ymyl o."

Dyma sylw arall o'i eiddo,—" Fuo neb yrioed tebyg i Napoleon am drin dynion. Os basa fo'n meddwl y gwnelsai saethu dyn ryw faint o ddaioni iddo fo, fasa fo ddim yn mynd i'r drafferth i gyfri tri cyn gwneyd hynny."

Oddiwrth Napoleon at Grist, nid oedd i Domos, pan yn siarad, ond cam. "Mewn batl y mae'r Cristion," meddai unwaith, "ar hyd ei fywyd, ac y mae yna armi ofnadwy o fawr yn ei erbyn o. Ledar yr armi yma ydi'r diafol. Mae gyno fo lawer iawn o deitla, megis tywysog y byd hwn, tywysog llywodraeth yr awyr, y ddraig fawr, yr hen sarff, a lliaws o rai tebyg. Yr ydw i yn ddigon boddlon iddo fo gael rhyw enwa hyll fel yna; mae nhw'n gweddu'n riol i'r hen greadur; ond mi 'rydw i'n poeni fod o'n cael enw neis fel Mab y Wawrddydd; ond, wrth gofio, y mae Pennaeth y Cythreuliaid yn balansio hwnnw yn nobl, hefyd. Wel, fel y deudis i, mae gan y diafol armi fawr ryfeddol, ac, fel general call, mae o'n i rhannu hi i lot o fân rijments. Tywysogaethau, dyna i chi rijment nymbar 1; Awdurodau, dyna rijment nymbar 2; Bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, dyna rijment No. 3; Drygau ysbrydol, ne, yn hytrach, ysbrydion drwg, dyna rijment nymbar 4. Mae gynno fo chwaneg o rijments na hynyna, a rheini yn perthyn i'r regulars i gyd. Tasa hi'n mynd yn galed iawn arno fo, mae gyno