Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fo filisia na wyr neb mo'u cyfri nhw, ac mi fedar alw y rheini i fyny pan leicia fo. Dyna i chi enwa rhai o rijments y milisia :-Yr hustung—ywr, yr athrodwyr, y ffrostwyr, y dychmygwyr drygioni, y torwyr amod, a dwsina o rai erill. Mae'r diafol yma yn hen sowldiwr, ac mi llaswn i feddwl oddiwrth Lyfr y Datguddiad yna mai yn y nefoedd y daru o listio. Mor fuan ag y cafodd o siwt sowldiwr am dano, ac y dysgodd o handlo cledda, 'roedd o'n ddigon digwilydd i anfon shalans i fatl at y General Michael, ac mi dderbyniodd y gŵr mawr hwnnw yr herr heb ddim lol. A bu rhyfel yn y nef.' Dydw i ddim yn siwr beth oedd yr achos o'r sgyffl: mae Llyfr y Datguddiad yna mor anodd i'w ddallt rywsut. Mi fum i, cyn heddyw, o dan law'r doctor ar ol darllen ambell un o'i adnoda mawr 0. Os oes gyno chi, y bobol yma sy'n arfer cysgu yn y capel, isio rhywbeth i'ch cadw chi'n effro, mae gen i ddwy neu dair o risêts ar ych cyfer chi. Treiwch Iwnc o'r mwg, llond llwy o'r brwmstan, pigiad gan y sgorpion, a brath- iad gan y ddraig, y mae Llyfr y Datguddiad yn son am danynhw, ac mi ffeia i chi nad oes yma'r un gwely yn y byd y medrwch chi gysgu arno fo wedyn.

Ond am y diafol a'i ffeit hefo Michael yr oeddwn i yn son-y Waterlŵ fawr gymrodd le yn y nefoedd cyn rhoi'r gogledd ar y gwagle. Colli'r fatl ddaru Satan, ac mi byndliwyd o a'i griw i lawr blith drafflith i'r pydew diwaelod. Jerc ofnadwy i greadur mawr a balch fel Liwsi- ffer oedd honyna. Ond 'doedd gyno fo ddim busnes i godi ei law yn erbyn yr Hollalluog. achos 'doedd gan y diafol ddim cysgod o siawns