Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn erbyn y fath bower. Mi faniwffactrodd y Duw mawr ddaeargryn, ac mi gafodd y General Michael ei fenthyg am hanner chwinciad, ac wedi cael contrôl iawn ar hwnnw, mi setlodd y diafol a'i gynffonwyr ar un slap.

"Wrth gwrs, mi 'roedd hi yn gryn dipyn o ddisgrâs i'r hen fachgen gael ei roi yn y pydew; a synnwn i ddim na chafodd o gryn lawer o gleisia o achos y codwm. 'Does dim dowt, welwch chi, nad oedd gyno fo batsh mawr ar ei lygad, ac nad oedd o'n gorfod cerddad wrth i fagla am oesa lawer ar ol y rownd gafodd o hefo Michael. Ond tendiwch chi, hogia anwyl, mae gen i ofn mod i'n gweld profion ers tipyn 'rwan fod o wedi mendio'n bur dda, bellach. Mae'r patsh oedd ar ei lygad o wedi ei dynnu ers tro, ac mae o'n medru gweld cystal, ac yn well, ran hynny na neb sydd yma. 'Does yma neb y mae o'n fwy ffond o sbio arnyn nhw na'r bobol ifanc. Pan y clywa fo fachgen yn deyd celwydd ac yn cymryd enw Duw yn ofer, ne pan y gwele o un yn torri'r Sabboth, yn dwyn, ac yn meddwi, mae o'n curo'i ddwylo wrth fodd i galon, ac fel pe bae o'n cael llonydd am ryw bum munud, o leia, gan y ffagla dychrynllyd sydd o'i gwmpas 0. Yn wir, wrth weld y llu mawr sydd yn y dyddia yma yn listio dan fflag ddu Angel y Pwll Diwaelod. mi fydda i'n meddwl fod o wedi dwad yn ei ol mor sionc ag y buo fo rioed. Mae o'n gneyd y tro heb ddim bagla 'rwan, ac mae gyno ni son am dano fo fod o'n tramwy hyd y ddaear ac yn ymrodio ar hyd-ddi. 'Dasa fo'n medru canu, ac yn gybyddus a'n llyfr hyms ni, mi faswn i yn dychmygu am dano fo yn dawnsio ar ludw uffern dan ddeud,