Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Da chi, bobol ifanc, tendiwch y diafol. Mae o'n bownd o dreio'ch ennill chi. Mae o ar y lwc owt bob munud. Y fo ydi'r creadur mwya prysur mewn bod. Dydi o ddim wedi cymryd yr un diwrnod o holides yrioed; achos mae o'n pechu o'r dechreuad. Gwrthwynebwch ddiafol ac fe ffy oddiwrthych. Ewch allan i'r rhyfel yn ei erbyn o. Mae gen i hanes uniform i chi, ac mae hi i'w chael am ddim. Dyma ddarna o honi,-gwregys gwirionedd, dwyfroneg cyfiawnder, ac esgidiau parotoad efengyl tangnefedd. Uwchlaw pob dim, ewch at Giaptan mawr ein hiechydwriaeth i nol yr arfau, a chyno fo mi gewch darian y ffydd, helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd. Wedi i chi gael eich rigio i fyny fel yna, fydd Angel y Pwll Di- waelod yn ddim ond fel Robin y Gyrrwr yn eich erbyn.'